
Dewch draw i’n sesiwn galw heibio ddydd Mercher, 18 Tachwedd 2026, yn Neuadd Gymunedol St James, Wyesham, rhwng 2pm a 7pm. Mae’n gyfle i gael rhagor o wybodaeth, gofyn cwestiynau a siarad yn uniongyrchol â swyddogion y cyngor.
Rydym yn datblygu ateb atgyweirio parhaol ar gyfer yr A4136, Heol Staunton, ar ôl i waith cynnal a chadw rheolaidd ddatgelu bylchau sylweddol o dan wyneb y ffordd, gan godi pryderon am sefydlogrwydd y ffordd a’r llethr oddi tani.
Yn dilyn y darganfyddiad, gwnaethom gyflwyno trefniadau rheoli traffig dros dro tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal, gyda’r nod o gadw’r ffordd ar agor gymaint â phosibl.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gydag ymgynghorwyr peirianneg arbenigol i ymchwilio i achos a maint y broblem er mwyn nodi ateb atgyweirio hirdymor addas.
Mae’r gwaith hyd yma wedi cynnwys ymchwiliadau i’r tir, arolygon, asesiadau peirianneg, astudiaethau o fywyd gwyllt a chynefinoedd, a thrafodaethau gyda chwmnïau cyfleustodau. Bydd yr ymchwiliadau hyn yn ein galluogi i ddatblygu cynllun atgyweirio parhaol.
Ble rydym ni arni nawr?
- Mae ymchwiliadau’n parhau i asesu’r ffordd orau o sefydlogi’r ffordd a’r llethr.
- Rydym yn datblygu cynlluniau atgyweirio manwl, ac mae’r gwaith o gael y cymeradwyaethau angenrheidiol yn mynd rhagddo.
- Mae arolygon o fywyd gwyllt a chynefinoedd yn cael eu cwblhau i gefnogi’r gwaith adeiladu.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Cyn y gall gwaith adeiladu mawr ddechrau, mae angen i’r tîm gwblhau’r cynlluniau manwl a’r arolygon, a chael y cymeradwyaethau angenrheidiol. Y camau nesaf yw:
- cwblhau’r cynlluniau manwl ar gyfer yr atgyweiriad parhaol
- adolygu’r amserlen arfaethedig ar gyfer y gwaith adeiladu a chwilio am gyfleoedd i ddechrau’r gwaith yn gynt lle bo modd
- cwblhau arolygon o fywyd gwyllt a chynefinoedd a chael y trwyddedau a’r cymeradwyaethau angenrheidiol
- parhau i weithio gyda chwmnïau cyfleustodau i nodi a oes angen diogelu neu symud unrhyw wasanaethau
- diweddaru amcangyfrifon cost, asesu risgiau a datblygu trefniadau ar gyfer cyflawni’r gwaith
- parhau i fonitro’r ffordd a’r llethr i asesu diogelwch a nodi a oes angen unrhyw newidiadau i’r trefniadau traffig.
Mae tair ardal wedi’u nodi lle mae angen gwneud gwaith sefydlogi, a bydd angen cau’r ardaloedd hyn yn llwyr tra bydd y gwaith yn cael ei wneud. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw hyd y cyfnodau cau hyn mor fyr â phosibl, a byddwn yn gweithio’n agos gyda’n cymunedau a’n busnesau i leihau unrhyw darfu lle bynnag y bo modd.
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi
Rydym yn deall bod pobl sy’n defnyddio’r A4136 eisiau gwybodaeth glir am gynnydd ac unrhyw darfu ar eu teithiau. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon mor rheolaidd â phosibl.
Os hoffech gael diweddariadau’n uniongyrchol i’ch cyfeiriad e-bost, rhowch eich manylion isod.