Skip to Main Content

Mae ymrwymiad i ddarparu gofal plant i bob plentyn dwy oed wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Mae’r ddarpariaeth gofal plant i blant dwy oed a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gyflwyno elfen gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel i blant 2-3 oed fesul cam.

Wrth i’r rhaglen ymestyn ar draws Sir Fynwy, bydd yn cysylltu â theuluoedd i roi gwybod iddynt pryd y bydd eu cod post yn cael ei gynnwys fel ardal darged.

Yn y pendraw, bydd y cynnig gofal plant i blant dwy oed yn rhoi hawl i bob plentyn dwy oed gael 12.5 awr o ofal plant wedi’i ariannu’n llawn, o’r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn ddwy oed, am 39 wythnos y flwyddyn.

Lawrlwythwch ein llyfryn Cymorth Ariannol i gadarnhau a ydych yn gymwys ar gyfer unrhyw fath arall o gymorth: