Skip to Main Content

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau i’w gadarnhau

Prif Nodweddion

Eiddo tair ystafell wely
Eiddo lled-ddatgysylltiedig gydag adeiladau allanol
Darn mawr o dir o amgylch yr eiddo – tua 0.4 erw
Ar werth drwy Dendr Anffurfiol

Lluniau Ychwanegol

Mae Tîm Datblygu Ystadau Cyngor Sir Fynwy yn gwahodd cynigion drwy dendr anffurfiol ar gyfer bwthyn pâr deniadol â thair ystafell wely, sydd wedi’i leoli yn ardal Portskewett yn Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru.

Disgrifiad

Mae’r eiddo wedi’i leoli tua 2.5 milltir o Galdicot a 3 milltir o Gas-gwent (Chepstow). Mae’r lleoliad yn cynnig cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol i bob cyfeiriad, gyda’r A48, yr M48 a’r M4 yn darparu mynediad da i Fryste (trwy’r ddwy bont dros Afon Hafren), Casnewydd a Chaerdydd. Mae hefyd lwybrau bws da i Galdicot, Casnewydd a Chas-gwent. Mae gorsafoedd trên yng Nghas-gwent ac yng Nghaldicot, sy’n gwasanaethu Bryste, Caerdydd a Gloucester, o fewn 3 milltir i’r eiddo.

Mae tref farchnad hanesyddol a bywiog Cas-gwent yn cynnig cyfleusterau rhagorol, gan gynnwys archfarchnad Tesco, adran fwyd M&S, a nifer o dafarnau, caffis a bwytai. Mae gan Gas-gwent a Chaldicot ysgolion cynradd ac uwchradd, canolfannau hamdden ac atyniadau i ymwelwyr, gan gynnwys cestyll a pharciau gwledig. Mae clwb golff a gwledig gerllaw hefyd.

Dull Gwerthu

Mae’r eiddo yn cael ei gynnig i’w werthu drwy broses dendro anffurfiol. Mae dogfennau’r tendr ar gael ar dudalen we ‘Eiddo sydd ar Gael’ Adran Ystadau’r Cyngor. Rhaid cyflwyno tendrau yn unol â’r manylion a nodir yn y ffurflen safonol (pro-forma).

Gofynnir i bartïon â diddordeb gofrestru eu diddordeb yn ffurfiol. Dylai’r rhai sy’n bwriadu cyflwyno tendr fod yn ymwybodol bod cynigion yn cael eu hasesu yn erbyn matrics o feini prawf, gan gynnwys y cynnig a’r sefyllfa ariannol, y defnydd arfaethedig ac unrhyw gynigion datblygu, yn ogystal â phrif amcanion y Cyngor a nodir uchod.

TAW
Nid yw’r eiddo yn ddarostyngedig i TAW.

Gwasanaethau
Gwresogi canolog olew, trydan a dŵr prif gyflenwad, a system ddraenio preifat (tanc septig). Cynghorir partïon â diddordeb i wneud eu hymholiadau eu hunain gyda’r darparwyr gwasanaeth a rheoleiddio perthnasol.

Ymweliadau
Trwy apwyntiad yn unig.

Amodau
Yn amodol ar gadarnhad.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â’r Tîm Datblygu Ystadau i gofrestru eich diddordeb yn yr eiddo hwn.

E-bost: Estates@monmouthshire.gov.uk
Ffôn: 01633 644417


Available Property Webpage