Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Bob blwyddyn, bydd yr Awdurdod Lleol yn ymgynghori ynghylch ei drefniadau derbyn a phan fo hynny’n bosibl, bydd yn ceisio trefnu fod y derbyniadau yn adlewyrchu ac yn cyd-fynd ag amserlenni
Awdurdodau cyfagos. Cyn yr ymgynghoriad, dylai’r niferoedd derbyn ar gyfer yr holl ysgolion gael eu pennu a ffurfio rhan o’r ymgynghoriad hwn. Mae niferoedd derbyniadau’r ysgolion yn deillio o faint ffisegol yr ysgol ar gyfer anghenion dysgu disgyblion.
Bob blwyddyn, pennir dyddiad ar gyfer anfon yr holl ffurflenni cais i rieni/gofalwyr. Ar yr un pryd, pennir dyddiad cau ar gyfer ceisiadau a gwblhawyd. Bydd yr Awdurdod yn sicrhau nad yw’r cyfnod hwn rhwng dyddiadau dosbarthu a dyddiadau cau yn llai na chwe wythnos. Mae dyddiad y cynnig, pan hysbysir rhieni/gofalwyr ynglŷn â chanlyniadau eu ceisiadau hefyd yn cael ei gadarnhau fel rhan o’r ymgynghoriad hwn ar drefniadau derbyn.