Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Nid yw mynychu ysgol gynradd yn gwarantu y bydd lle ar gael ar

gyfer eich plentyn yn yr ysgol gyfun fwydo. Er y gwneir pob ymdrech i

ddarparu ar gyfer dewis rhieni, lle mae ysgol yn llawn, defnyddir y meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, leoedd ar gael

Gwahoddir rhieni i fynegi eu dewis ysgol uwchradd ar gyfer eu plentyn. Cyn penderfynu gwneud cais am le mewn ysgol arbennig, mae angen i chi ystyried yn ofalus sut y bydd eich plentyn yn teithio i’r ysgol, gan na fyddwch o angenrheidrwydd yn gymwys i dderbyn cymorth cludiant.

Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol.

DERBYN I YSGOL UWCHRADD (11-19 OED)

Noder pan fyddwch yn gwneud cais am leoliad

ysgol y byddwch yn cael eich asesu’n awtomatig ar gyfer cludiantysgol ar yr un pryd. Nid oes rhaid i chi gwblhau ceisiadau ychwanegol.

Os dymunwch i’ch plentyn fynychu ysgol yng Nghasnewydd neu Torfaen, rhaid i chi wneud cais yn uniongyrchol i Awdurdod Lleol Casnewydd neu Awdurdod Lleol Torfaen. Cynghorir chi hefyd i lenwi a dychwelyd Ffurflen Gais Sir Fynwy gan nodi manylion ysgolion eraill a ddewiswyd gennych rhag ofn i chi fod yn aflwyddiannus yn eich cais i fynd i’r ysgol hon.

Yn eich cais dylech gofnodi’n eglur eich bod hefyd wedi gwneud cais am le mewn ysgol yng Nghasnewydd neu Torfaen. Bydd derbyniadau yn seiliedigar y meini prawf hyn.

Os na fydd yr Awdurdod yn gallu dyrannu yn unol â dewis ysgol(ion) y rhieni yna byddwn yn cynnig lle yn yr ysgol agosaf nesaf â lleoedd ar gael.

Mae gan rieni hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod lle yn eu hoff ddewis ysgol(ion).

Gweler yr amserlen ar wrth wneud cais am le Ysgol.