Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Annwyk Riant/Ofalwr
Mae’r llyfryn hwn ar gyfer eich cefnogi yn eich camau nesaf ar yr adeg bwysig yma ym mywyd eich plentyn.
Mae Sir Fynwy yn falch o’r hyn a gyflawnodd ar gyfer ei holl blant a phobl ifanc. Anelwn ddarparu cyfleoedd dysgu a phrofiadau sy’n galluogi disgyblion a myfyrwyr i gyflawni eu potensial ym mhob agwedd o’u bywyd a’r dyfodol.
Mae gan y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc record ardderchog o gyflawni canran uchel iawn o ddewisiadau cyntaf ar gyfer lleoedd ysgol. Rydym yn falch o hyn a dymunwn barhau i weithio gyda chi a’n hysgolion i ddiwallu eich anghenion lle bynnag sydd modd. Rydym hefyd yn benderfynol i sicrhau y caiff eich teulu ei gefnogi gyda gwybodaeth glir ar yr adeg bwysig yma pan fydd eich plentyn yn dechrau’r ysgol. Cynlluniwyd y llyfryn i roi’r manylion rydych eu hangen i sicrhau fod y broses yn brofiad cadarnhaol o’r cychwyn cyntaf. Bydd staff yn y Gyfarwyddiaeth yn falch i’ch helpu a’ch cefnogi mewn unrhyw ffordd.
Dylid nodi mai canllawiau cyffredinol yn unig yw’r wybodaeth a gynigir yn y llyfryn yma. Bob blwyddyn rydym yn rhagamcan y galw am leoedd mewn ysgolion. O bryd i’w gilydd gall ffactorau allanol ac annisgwyl herio cywirdeb ein rhagamcaniadau.
I’ch cynorthwyo wrth benderfynu ar eich dewisiadau mae’r llyfryn yn cynnwys manylion penodol ar ysgolion cynradd ac uwchradd yn Sir Fynwy a’r ardaloedd cyfagos.
Mae’r cyfnod yma’n garreg filltir i chi a’ch plant. Rydym yma i helpu.
Will Mclean
Cyfarwyddwr Strategol, Dysgu, Sgiliau a’r Economi
Y Cynghorydd Laura Wright
Aelod Cabinet Addysg