Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Cyflwyniad
Mae’r Cod Derbyn i Ysgolion statudol yn rhoi canllawiau ar y broses y dylid ei dilyn wrth amrywio’r trefniadau derbyn a gyhoeddwyd ar gyfer unrhyw Awdurdod Derbyn. Y Corff Llywodraethu yw’r Awdurdod Derbyn ar gyfer Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair.
Yn unol â’r cod, mae’n rhaid cynnal ymgynghoriad rhwng 1 Medi a 1 Mawrth yn y flwyddyn benderfynu. Y flwyddyn benderfynu yw’r un sy’n dechrau ddwy flynedd academaidd cyn i’r trefniadau ddod i rym ac felly mae’n rhaid i’r Corff Llywodraethu yn awr ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i’r trefniadau derbyn sydd mewn grym o fis Medi 2027. Cafodd y trefniadau ar gyfer Medi 2027 eu cymeradwyo a’u cyhoeddi eisoes ar wefan yr ysgol a Llawlyfr Gwybodaeth Rhieni 2027/28 Cyngor Sir Fynwy
Dylai unrhyw un sy’n dymuno rhoi sylwadau ar y ddogfen ymgynghori hon wneud hynny un ai drwy ysgrifennu at
Gadeirydd y Llywodraethwyr, d/o Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair, Hen Heol Bulwark, Cas-gwent, Sir Fynwy, NP16 5JE
stmarysprimary@monmouthshireschools.wales
Rhaid derbyn yr holl sylwadau erbyn 12 canol-dydd 1 Mawrth 2027.
Trefniadau Derbyniadau Ysgol – Medi 2027
Dosbarth Derbyn
Gwneud cais o 13 Tachwedd 2026
Dyddiad Cau: 15 Ionawr 2027 am 4pm
Hysbysu rhieni erbyn: 16 Ebrill 2027
Trefniadau Ceisiadau Hwyr:
| Derbyn Y Cais: | Dyddiad Y Cynnig |
| 16 – 31 Ionawr 2027 | 1 Mai 2027 |
| Chwefror 2027 | 3 Mai 2027 |
| Mawrth 2027 | 14 Mai 2027 |
| Ebrill 2027 | 21 Mai 2027 |
| Mai 2027 | 11 Mehefin 2027 |
| Mehefin 2027 | 9 Gorff 2027 |
| 1 – 10 Gorff 2027 | 16 Gorff 2027 |
| 11 – 17 Gorff 2027 | 23 Gorff 2027 |
| 18 – 24 Gorff 2027 | 30 Gorff 2027 |
| 25 – 31 Gorff 2027 | 6 Awst 2027 |
| 1 – 7 Awst 2027 | 13 Awst 2027 |
| 8- 14 Awst 2027 | 20 Awst 2027 |
| 15 – 21 Awst 2027 | 27 Awst 2027 |
| 22 – 28 Awst 2027 | o fewn wythnos |
Derbyn/Ceisiadau Hwyr i Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair
Gall plant ddechrau’r ysgol yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed. Mae’r gofynion cyfreithiol yn cadarnhau y gall rhieni ohirio mynediad eu plentyn tan y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn bump oed, ac ni fydd cais o’r fath yn gwanhau cais mewn unrhyw ffordd. Fodd bynnag y disgwyliad yw y bydd y plentyn ar ôl dechrau’r ysgol yn parhau i ddilyn eu grŵp blwyddyn cronolegol os nad oes amgylchiadau eithriadol. Wrth ystyried derbyn i’r grŵp blwyddyn dosbarth Derbyn, dylai rhieni gofio nad yw mynychu dosbarth meithrin yn gwarantu lle mewn unrhyw ysgol gynradd neu ysgol babanod gan fod angen cais ar wahân ac ni roddir blaenoriaeth i’r plant hynny sy’n mynychu unrhyw osodiad meithrin penodol.
Mae’n rhaid defnyddio’r pecyn cais cywir sydd ar gael gan yr ysgol neu ar wefan yr ysgol i wneud ceisiadau am leoedd ysgol. Dim ond personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn a enwir a all wneud cais, a bydd angen i’r person sy’n llenwi’r cais wneud datganiad yn cadarnhau hyn.
Yn unol â Chod Ymarfer Derbyniadau Ysgolion 2013, rhaid i rieni gwblhau “Ffurflen Gais Gyffredin” gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r ysgol yn gweithredu cynllun dewis cyfartal, sy’n golygu bod pob dewis yn cael ei ystyried yn gyfartal yn unol â meini prawf gor-danysgrifio’r ysgol, ac nid ar sail y drefn y maent wedi’u rhestru ar y cais. Os gellir bodloni mwy nag un dewis, cynigir y dewis â’r safle uchaf fel y’i datganwyd ar y ffurflen gais.
Caiff ceisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau eu hystyried ar yr un pryd ac anfonir llythyrau penderfyniad at rieni ddydd Gwener 16 Ebrill 2027 i’w hysbysu os bu eu cais yn llwyddiannus ai peidio. Dim ond ar ôl i leoedd gael eu dyrannu ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau y caiff unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau neu geisiadau sy’n parhau’n anghyflawn eu prosesu, a gall hyn gynyddu’r posibilrwydd o beidio sicrhau lle yn yr ysgol. Caiff unrhyw geisiadau hwyr a dderbynnir eu cadw a’u prosesu gyda’i gilydd erbyn diwedd y mis calendr yn dilyn eu derbyn, unwaith y bydd y dyddiad cynnig perthnasol wedi mynd heibio.
Fodd bynnag, dim ond os y’u cefnogir gan lythyr yn rhoi rhesymau eithriadol dros fod yn hwyr a dim ond os y’u derbynnir cyn y cynigir y lleoedd y caiff ceisiadau a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cyflwyno a gyhoeddwyd eu hystyried gyda’r rhai a ddaeth i law erbyn y dyddiad cau. Gellir diffinio rhesymau eithriadol fel amgylchiadau yn cynnwys salwch difrifol rhiant unigol, newydd symud i’r ardal, neu gyrraedd o dramor wedi golygu nad oedd yn bosibl cyflwyno’r cais erbyn y dyddiad cau.
Nid yw gwneud cais a rhoi’r dystiolaeth berthnasol i gefnogi yn gwarantu derbyn i Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair. Caiff pob cais ei ystyried yn unigol a chydymffurfir ag ef lle bynnag sy’n bosibl. Fodd bynnag, os derbynnir mwy o geisiadau na nifer derbyn yr ysgol, gall fod yn rhaid gwrthod y cais. Yn yr amgylchiadau hyn mae derbyn yn seiliedig ar y meini prawf a gyhoeddwyd gan yr ysgol ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd. Mae’n bwysig nodi y rhoddir yr ystyriaeth gyntaf ym mhob achos i rieni sy’n mynegi dewis cyntaf am Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair ac felly mae’n bwysig sicrhau eich bod yn rhoi ystyriaeth gywir i’ch rhestr o ddewisiadau cyn gwneud cais. Cyn penderfynu gwneud cais am le yn yr ysgol bydd angen i chi ystyried yn ofalus sut y bydd eich plentyn yn teithio i’r ysgol gan na fyddwch o reidrwydd yn gymwys am gymorth cludo.
Nid oes gan benaethiaid ysgol yr awdurdod i roi arwydd i rieni o ganlyniad eu cais na dweud wrthynt y cafodd eu plentyn le yn yr ysgol cyn y gwnaed cynnig o le yn ffurfiol gan y Corff Llywodraethu.
Derbyn i Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair/Ceisiadau Hwyr
Y Corff Llywodaethu yw awdurdod derbyn Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair. Mae’r Corff Llywodraethu yn ymgynghori’n flynyddol ar ei drefniadau derbyn a lle’n bosibl yn ceisio dilyn yr un amserlenni derbyn ag awdurdodau cyfagos. Mae’r nifer derbyn ar gyfer ysgolion yn deillio o gapasiti ffisegol yr ysgol i ddarparu ar gyfer anghenion dysgu disgyblion, yn defnyddio fformiwla a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Y nifer derbyn ar gyfer yr ysgol yw 30.
Mae Ysgol Gatholig Santes Fair yn gwasanaethu plwyfi Santes Fair Cas-gwent a Sant Paul Cil-y-coed.
Mae plwyf Santes Fair yn cynnwys Cas-gwent i gyd, Bulwark, Thornwell ac ardaloedd i’r gogledd yn cynnwys Itton, Devauden, Llanarfan, Tyndyrn a Llandogo, ac i’r dwyrain i Tutshill a Sedbury. Mae Plwyf Sant Paul yn cynnwys Porthysgewin, Cil-y-coed, Gwndy, Magwyr, Caerwent, Penhow a Langstone.
Ffurflenni Cais, Dogfennau a Thystiolaeth o Breswyliaeth
Y disgwyliad yw y caiff plant eu haddysgu yn eu grŵp blwyddyn cronolegol os nad oes amgylchiadau eithriadol. Oherwydd hyn mae’n rhaid i geisiadau gael eu cefnogi gan lungopi o dystysgrif geni’r plentyn, cerdyn meddygol GIG neu basbort dilys. Mae’r Awdurdod Derbyn hefyd angen tystiolaeth o breswyliaeth i gefnogi’r holl geisiadau, ac i hyn o beth mae’n rhaid i rieni/gofalwyr gyflwyno copi o’u cyfriflen Dreth Gyngor am y flwyddyn gyfredol er mwyn dilysu eu cyfeiriad cartref.
Wrth brosesu eich cais, bydd yr Awdurdod Derbyn yn defnyddio’r cyfeiriad lle’r ydych chi a’ch plentyn yn byw ar y dyddiad cau perthnasol ar gyfer eich cais, a’ch cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau ar ôl cyflwyno eich cais. Gall newidiadau o’r fath effeithio ar ganlyniad eich cais. Bydd Cyngor Sir Fynwy hefyd yn defnyddio’r cyfeiriad a roddwch er mwyn penderfynu os yw’ch plentyn yn gymwys am ‘gludiant cartref i’r ysgol’ am ddim yn unol â pholisi cludiant cyfredol y Cyngor.
Bydd angen cyflwyno tystiolaeth gyda’r cais os ydych wedi nodi i’ch plentyn gael bedydd Catholig neu ei dderbyn i’r Eglwys Gatholig. Gall tystiolaeth gynnwys Tystysgrif Bedydd neu gadarnhad ysgrifenedig gan offeiriad. Os ydych wedi nodi fod eich plentyn o ffydd heblaw Catholig, bydd angen cyflwyno tystiolaeth gyda’ch cais. Gall tystiolaeth gynnwys llythyr cefnogaeth gan Weinidog neu Arweinydd Ffydd. Ar gyfer ymgeiswyr Cristnogol, dylid darparu Tystysgrif Bedydd lle bynnag sy’n bosibl.
Lle ceisir mynediad i’r ysgol ar sail feddygol, yna mae’n rhaid i’r cais gael ei gefnogi gan lythyr gan yr ymgynghorydd meddygol sy’n goruchwylio gofal y plentyn. Ni fydd llythyrau gan feddygon teulu neu swyddogion iechyd eraill yn ddigonol.
Yn unol â Chod Ymarfer Derbyniadau Ysgol 2013, rhaid i rieni lenwi “Ffurflen Gais Gyffredin” gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r ysgol yn gweithredu cynllun dewis cyfartal, sy’n golygu bod pob dewis yn cael ei ystyried yn gyfartal yn unol â meini prawf gordanysgrifio’r ysgol, ac nid ar sail y drefn y maent wedi’u rhestru ar y ffurflen gais. Os gellir bodloni mwy nag un dewis, cynigir y dewis â’r safle uchaf fel y’i datganwyd ar y ffurflen gais.
Gohirio Mynediad
Nid yw’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i blentyn ddechrau’r ysgol tan ddechrau’r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn bump oed. Yn unol â hyn, bydd y Corff Llywodraethu yn caniatáu opsiwn i rieni ohirio mynediad eu plentyn i’r dosbarth Derbyn tan yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn ysgol. Effaith hynny yw y caiff y lle ei gadw ar gyfer y plentyn ac na fydd ar gael i’w gynnig i blentyn arall. Fodd bynnag ni fyddai’r rhieni’n medru gohirio mynediad tan ar ôl dechrau’r tymor ar ôl pen-blwydd eu plentyn yn bump oed, na thu hwnt i’r flwyddyn ysgol y gwnaed y cais ar ei chyfer.
Sut y dyrennir lleoedd
Mae gan rieni/gofalwyr hawl i fynegi dewis i’w plentyn gael eu derbyn i unrhyw ysgol a gynhelir o gronfeydd cyhoeddus. Caiff derbyn i ysgolion ei wneud yn unol â dewis y rhieni, os oes lleoedd ar gael, a chaiff pob cais ei ystyried yn unigol. Lle mae mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, byddir yn dal i ystyried ceisiadau dewis ond gweithredir y blaenoriaethau a osodwyd gan y Corff Llywodraethu. Caiff y meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd eu gweithredu yn nhrefn blaenoriaeth wrth benderfynu pa blant i’w derbyn i’r ysgol.
Meini prawf ar gyfer derbyn i Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd 2027 – 28.
Mae’n bwysig nodi y rhoddir yr ystyriaeth gyntaf ym mhob achos i rieni sy’n mynegi dewis cyntaf ar gyfer Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair ac felly mae’n bwysig sicrhau eich bod yn rhoi ystyriaeth briodol i’r rhestr ddewis cyn cyflwyno cais.
Y nifer derbyn a nodwyd ar gyfer yr ysgol yw 30. Pan fo nifer y ceisiadau yn gyfartal â neu’n llai na’r nifer o leoedd sydd ar gael, bydd pob cais yn llwyddiannus. Fodd bynnag, pan fo nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd ar gael, bydd y Corff Llywodraethu yn gweithredu’r meini prawf dilynol ac yn dyrannu lleoedd yn unol â hynny.
Pan enwir Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair mewn datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, mae’n ddyletswydd ar y Corff Llywodraethu i dderbyn y plentyn i’r ysgol cyn gweithredu’r meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gyfer y ceisiadau a ddaeth i law.
Bydd plant sydd â’r ysgol wedi’i henwi mewn Datganiad o Angen Addysgol Arbennig yn cael blaenoriaeth dros bob plentyn. Gweithredir y meini prawf mewn trefn. Plant sy’n derbyn gofal (plant mewn gofal cyhoeddus) neu a fu’n flaenorol yn blant yn derbyn gofal ac a fedyddiwyd fel Catholigion neu a gafodd eu derbyn yn ffurfiol i’r Eglwys Gatholig (gweler nodyn *1) yn dilyn ymgynghoriad ar briodolder y lleoliad.
Dylid nodi y rhoddir y flaenoriaeth uchaf i siblingiaid ym mhob un o’r categorïau dilynol (2-5).
(Siblingiaid: caiff brodyr a chwiorydd, p’un ai’n hanner, llawn, llys, mabwysiedig neu faeth eu hystyried yn berthnasol lle maent yn byw ar yr un aelwyd a lle bydd plentyn hŷn yn dal i fod wedi cofrestru yn yr ysgol pan fydd y plentyn iau yn gymwys i fynychu. Lle mae mwy nag un achos o’r fath, rhoddir blaenoriaeth i’r plant hynny sydd agosaf mewn oedran i’r siblingiaid sydd eisoes yn mynychu’r ysgol, fel ar y dyddiad derbyn).
Rhoddir y flaenoriaeth uchaf yng nghategorïau 2-5 i blant genedigaeth luosog.
2. Plant a gafodd eu bedyddio fel Catholigion neu a gafodd eu derbyn yn ffurfiol i’r Eglwys Gatholig (gweler nodyn *1).
3. Plant sy’n derbyn gofal (plant mewn gofal cyhoeddus) neu a fu’n flaenorol yn blant yn derbyn gofal yn dilyn ymgynghoriad ar briodoldeb y lleoliad.
4. Plant o enwadau Cristnogol eraill y mae eu rhieni wedi mynegi dymuniad am addysg Gatholig (gweler nodyn *2).
5. Plant o ffydd arall y mae eu rhieni wedi mynegi dymuniad am addysg Gatholig (gweler nodyn *2).
6. Pob plentyn arall y mae eu rhieni wedi mynegi dymuniad am addysg Gatholig.
*1. Gofynnir i geisiadau ar gyfer plant sydd i’w hystyried dan faen prawf 1 neu 2 uchod roi tystiolaeth o fedyddio neu dderbyn i’r Eglwys Gatholig. Dylai tystiolaeth gynnwys cadarnhad ysgrifenedig neu ardystiad o fedydd/derbyn i’r Eglwys Gatholig.
*2. Gofynnir i geisiadau ar gyfer plant i gael eu hystyried dan faen prawf 4 neu 5 roi llythyr cefnogi gan eu Gweinidog neu Arweinydd Ffydd. Dylid rhoi Tystysgrif Fedyddio lle bynnag sy’n bosibl ar gyfer ymgeiswyr Cristnogol.
Os yn gyfartal:
Lle mae lleoedd ar gael i rai ond nid yr holl ymgeiswyr mewn unrhyw gategori neilltuol yna rhoddir blaenoriaeth i’r plant hynny sydd â’u cyfeiriad cartref agosaf at glwyd yr ysgol a fesurir fel y “llwybr cerdded byrraf a mwyaf diogel sydd ar gael, gyda chwmni fel bo angen” rhwng prif fynedfa/ clwyd flaen y cartref a phrif glwyd yr ysgol ar Hen Heol Bulwark. Caiff pellteroedd o’r fath eu mesur gan ddefnyddio Google Maps (opsiwn cerdded).
Mae gan rieni hawl apêl statudol yn erbyn peidio derbyn plentyn i’r ysgol. Caiff hyn ei glywed gan Banel Apêl Annibynnol na fydd gan y Corff Llywodraethu a Phennaeth yr ysgol unrhyw ran ynddo. Rhoddir manylion y broses apelio i rieni pan gânt eu hysbysu y gwrthodwyd lle i’w plentyn (neu os ydynt yn gofyn am wybodaeth o’r fath gan y Corff Llywodraethwyr).
Nodiadau:
Bydd y Corff Llywodraethu yn ystyried mai cyfeiriad cartref y plentyn yw’r man lle mae’r plentyn yn byw’n barhaol am fwyafrif yr wythnos ysgol ar y dyddiad cau a nodir ar gyfer ceisiadau. Byddai hyn fel arfer yr un cyfeiriad â’r person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ac sy’n brif ofalwr. Lle mae plentyn yn treulio’r un faint o amser gyda’r ddau riant/gofalwr, ystyrir mai man preswyl y person sy’n derbyn y budd-dal plant yw cartref y plentyn. Gall fod angen tystiolaeth i gefnogi hyn.
Mae’n rhaid i geisiadau ar angen meddygol gael eu cefnogi gan adroddiad ymgynghorydd meddygol, a geir gan y rhieni, yn nodi angen meddygol y plentyn sy’n mynychu’r ysgol. Gofynnir i chi nodi na chaiff adroddiadau gan feddygon teulu eu derbyn ar gyfer y diben hwn. Siblingiaid yw: brodyr a chwiorydd, p’un ai’n hanner, llawn, llys, mabwysiedig neu faeth a gaiff eu hystyried yn berthnasol pan maent yn byw ar yr un aelwyd a lle bydd plentyn hŷn yn dal i fod wedi cofrestru yn yr ysgol pan fydd y plentyn iau yn gymwys i fynychu.
Gwybodaeth berthnasol arall – Pellter cartref o’r ysgol:
O fewn pob set o feini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd, os yw nifer y ceisiadau mewn unrhyw gategori yn uwch na’r nifer derbyn a nodwyd, caiff blaenoriaeth ei seilio ar y rhai sy’n byw agosaf at y dewis ysgol. Caiff y pellter hwn ei fesur fel y “llwybr cerdded byrraf sydd ar gael, gyda chwmni fel bo angen” rhwng y cartref (a fesurir i linell ganol y ffordd fabwysiedig yn union tu allan i flaen man preswylio arferol y plentyn) a chlwyd agosaf yr ysgol. Bydd yr ysgol yn penderfynu’r llwybr fel yr amlinellir uchod yn defnyddio ei feddalwedd llwybrau penodol ei hun, a fesurir fel y’u cofnodwyd gan Google Maps (opsiwn cerdded). Dyma’r unig ddull mesur a ddefnyddir gan yr ysgol er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb ar gyfer pob ymgeisydd.
Lle mae dau neu fwy o ymgeiswyr yn cael eu hystyried ar gyfer y lle olaf sydd ar gael, a bod y cyfrif pellter cartref i’r ysgol yr un fath, bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal asesiad ychwanegol o’r pellter rhwng llinell ganol y ffordd fabwysiedig a drws blaen y tŷ.
Plant personél Lluoedd Arfog
Penderfynir fod plant personél lluoedd arfog y Deyrnas Unedig sy’n symud i Sir Fynwy yn cyflawni’r meini prawf preswyliaeth ar gyfer yr ysgol gynradd berthnasol os anfonir tystiolaeth swyddogol o’r swydd gyda’r ffurflen gais yn nodi dyddiad dychwelyd pendant gyda chadarnhad o’r cyfeiriad nesaf lle’n bosibl.
Plant a gartrefir drwy asiantaethau trais domestig
Penderfynir fod plant a gartrefir dros dro dan warchodaeth asiantaethau trais domestig yn cyflawni’r meini prawf preswyliaeth ar gyfer yr ysgol gynradd berthnasol os anfonir llythyr swyddogol gan yr asiantaeth berthnasol gyda’u ffurflen gais.
Rhestri aros ar gyfer ysgolion sydd â mwy o geisiadau nag oleoedd ar gael
Trosglwyddo Cyfnod Sylfaen – Cyfnod Allweddol 2
Yn ystod y broses drosglwyddo cyfnod, pe gwrthodid lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol(ion), bydd enw eich plentyn yn parhau ar restr aros ar gyfer yr ysgol hon tan 30 Medi yn y flwyddyn y gwneir y cais. Os daw lleoedd ychwanegol ar gael, cânt eu dyrannu i blant ar y rhestr aros ar sail y meini prawf a gyhoeddwyd ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd. Nid yw rhestri aros yn rhoi blaenoriaeth i blant yn seiliedig ar y dyddiad yr ychwanegwyd y cais at y rhestr. Cysylltir â rhieni cyn 30 Medi a gofynnir iddynt gadarnhau p’un ai ydynt yn dymuno aros ar y rhestr aros am weddill y flwyddyn academaidd, a gellir gwneud cais newydd.
Derbyn neu drosglwyddo o fewn y flwyddyn
Lle gwrthodir cais am drosglwyddo o fewn y flwyddyn, bydd enw’r plentyn yn parhau ar restr aros ar gyfer y ddewis ysgol tan ddiwedd y flwyddyn academaidd (31 Awst) pan wneir y cais, a gellir gwneud cais newydd bryd hynny. Os daw lleoedd ychwanegol ar gael, cânt eu dyrannu i blant ar y rhestr aros ar sail y meini prawf a gyhoeddwyd ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd. Nid yw rhestri aros yn rhoi blaenoriaeth i blant yn seiliedig ar y dyddiad yr ychwanegwyd y cais at y rhestr.
Rhai rhesymau eraill pam y gallwn wrthod derbyn plant
Er bod gan rieni yr hawl i fynegi dewis i’w plentyn gael ei derbyn i unrhyw ysgol a gynhelir o gronfeydd cyhoeddus, mae rhesymau pam y gall fod yn rhaid gwrthod y dewis hwnnw gan fod yn rhaid i’r Awdurdod Derbyn hefyd roi ystyriaeth wrth benderfynu ceisiadau i:
• Y cynllun maint dosbarth babanod sy’n ymroi i sicrhau na fydd unrhyw blentyn 5, 6 neu 7 oed mewn dosbarth o fwy na 30 disgybl ar gyfer pob athro cymwysedig. Mae’r terfyn statudol o 30 disgybl ar gyfer dosbarthiadau babanod yn weithredol i’r dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2.
• Unrhyw ffactorau eraill a all amharu ar ddarparu addysg effeithiol a/neu ddefnydd effeithiol o adnoddau.
Eithriadau maint dosbarth
Mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Derbyn gyfyngu maint dosbarthiadau babanod i ddim mwy na 30 disgybl, a hefyd i sicrhau lle’n bosibl nad oes mwy na 30 o ddisgyblion mewn dosbarthiadau iau. Fodd bynnag, mae eithriadau i’r rheoliadau hyn (a elwir yn ‘disgyblion eithriedig’) a all ganiatáu mwy na 30 o ddisgyblion mewn dosbarth. Caiff y disgyblion hyn eu hamlinellu’n benodol yn y Cod Derbyn Ysgolion statudol. Bydd disgyblion a eithrir yn parhau felly, unwaith y’u derbyniwyd, am weddill eu cyfnod mewn dosbarth babanod neu nes bod niferoedd dosbarth yn gostwng a gellir eu trefnu i gydymffurfio gyda’r terfyn ar faint dosbarthiadau babanod. Mae’n rhaid trefnu dosbarthiadau er mwyn cydymffurfio gyda’r terfyn lle bynnag sy’n bosibl.
Apeliadau Ysgolion Cymorth Gwirfoddol
Mae gan rieni hawl statudol i apelio yn erbyn gwrthodiad gan y Corff Llywodraethu i dderbyn eu plentyn, a dylent roi eu rhesymau dros apelio mewn ysgrifen yn unol â’r gweithdrefnau a amlinellir yn y llythyr penderfyniad. Caiff apeliadau eu clywed gan y Panel Apêl Annibynnol ac ni fydd gan y Corff Llywodraethu na’r Pennaeth unrhyw rôl yn hynny. Bydd penderfyniad y Panel Apêl yn rhwymo pob parti.