Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddwyd neu geisiadau sy’n parhau i fod yn anghyflawn ar y dyddiad cau, yn cael eu trin yn unol â’r trefniadau ceisiadau hwyr.
Bydd newid blaenoriaeth a dderbynnir gan yr Awdurdod Lleol ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddwyd yn cael ei drin fel cais hwyr.
Yn achos ceisiadau lle cafwyd newid mewn amgylchiadau, a effeithiodd ar statws y cais gyda golwg ar y meini prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael (h.y. newid cyfeiriad), gallai’r cais hefyd gael yn cael ei drin fel cais hwyr os cafodd yr Awdurdod ei hysbysu ynglŷn â’r newidiadau hyn ar ôl y dyddiad cau. Bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried ar sail ddisgresiwn amgylchiadau newid cyfeiriad annisgwyl cyn penderfynu trin y cais fel un hwyr.
Yn anffodus, dim ond os ceir hysbysiad o’r newid cyfeiriad ddim llai na 6 wythnos cyn y dyddiad cynnig a gyhoeddwyd y gellir defnyddio disgresiwn er mwyn i’r cyfeiriad newydd gael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion dyrannu.
Gofynnir i chi nodi y gall ceisiadau a gaiff eu pennu yn rhai hwyr gynyddu’r posibilrwydd na chewch gynnig le yn eich dewis ysgol(ion). Bydd hyn oherwydd y caiff pob cais a gyflwynir gyda’r dystiolaeth angenrheidiol cyn y dyddiad cau flaenoriaeth dros y rhai a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau.
Amserlen prosesu ceisiadau a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau (ceisiadau hwyr)
Cymwys i Ysgolion Uwchradd yn Unig
| Derbyn y Cais | Dydduad Y Cynnig |
| Tachwedd 2026 | 12 Mawrth 2027 |
| Rhagfyr 2026 | 26 Mawrth 2027 |
| 1- 15 Ionawr 2027 | 2 Ebrill 2027 |
Cymwys i ysgolion Cynradd a’r Uwchrad
| 16 – 31 Ionawr 2027 | 1 Mai 2027 (Cynradd) |
| 10 Ebrill 2027 (Uwchradd) | |
| Chwefror 2027 | 3 Mai 2027 (Cynradd) |
| 16 Ebrill 2027 (Uwchradd) | |
| Mawrth 2027 | 14 Mai 2027 |
| Ebrill 2027 | 21 Mai 2027 |
| Mai 2027 | 11 Mehefin 2027 |
| Mehefin 2027 | 9 Gorffennaf 2027 |
| 1-10 Gorffennaf 2027 | 16 Gorffennaf 2027 |
| 11 – 17 Gorffennaf 2027 | 23 Gorffennaf 2027 |
| 18th – 24 Gorffennaf 2027 | 30 Gorffennaf 2027 |
| 25 – 31 Gorffennaf 2027 | 6 Awst 2027 |
| 1- 7 Awst 2027 | 13 Awst 2027 |
| 8 – 14 Awst 2027 | 20th Awst 2027 |
| 15 – 21 Awst 2027 | 27th Awst 2027 |
| 22 – 28 Awst 2027 | O Fewn Wythnos |
Derbyn i grwpiau blwyddyn eraill
Pan dderbynnir ceisiadau ar gyfer derbyniadau i grwpiau blwyddyn gwahanol i’r flwyddyn fynediad arferol, ni fydd y rhain yn cael eu hystyried tan ddechrau ail hanner tymor yr haf (ar ôl gwyliau’r Sulgwyn). Unwaith eto, bydd y rhain yn cael eu gosod mewn sypiau ac yn cael eu prosesu yn unol â’r meini prawf pan fydd mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael, yn fisol. Ni fydd rhieni’n cael gwybod am benderfyniad yn gynharach na 4 wythnos cyn diwedd tymor yr haf.
Caiff y ceisiadau hyn eu casglu ar sail fisol a chânt eu prosesu yn ôl y meini prawf pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael pe byddai nifer y ceisiadau yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael. Fodd bynnag, dylid nodi y rhoddir blaenoriaeth i’r rhieni hynny sy’n edrych am le yn ystod y tymor presennol yn hytrach nag yn y flwyddyn academaidd newydd.