Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Mae plant Aelodau o Luoedd Arfog y DU yn cael eu symud yn aml o fewn y DU a thramor yn aml ar fyr rybudd. O ganlyniad i’r ffaith nad yw Aelodau o’r Lluoedd Arfog y DU yn medru cymryd rhan yn y broses dderbyn arferol, bydd y Cyngor yn ystyried bod y meini prawf preswylio wedi eu bodloni (a dyfarnu blaenoriaeth dalgylch) os caiff y canlynol ei gyflwyno gyda’r cais, hyd yn oed os nad yw’r teulu’n byw yn Sir Fynwy ar y dyddiad perthnasol:

  • Prawf swyddogol o bostio h.y. hysbysiad postio;
  • Copi o Gerdyn Adnabod y Gwasanaeth;
  • Cadarnhad o’r cyfeiriad newydd lle bynnag y bo modd.

Lle mai’r ysgol ddewisol hefyd yw’r ysgol ddalgylch ond bod y nifer derbyn eisoes wedi’i fodloni yn y grŵp blwyddyn perthnasol, bydd y Cyngor yn mynd dros y nifer derbyn.

Gweision y Goron

Mae plant Gweision y Goron y DU (gan gynnwys diplomyddion) weithiau yn cael eu symud yn aml ac os ydynt yn symud i Sir Fynwy, penderfynir eu bod yn bodloni’r meini prawf preswylio ar gyfer yr ysgol ddalgylch berthnasol os daw llythyr swyddogol gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad gyda’r cais sy’n datgan:

  • Dyddiad dychwelyd pendant;
  • Cadarnhad o’r cyfeiriad newydd lle bynnag y bo modd;
  • Cadarnhad o statws Gwas y Goron.