Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Y Cwricwlwm i Gymru

Mae addysg yng Nghymru yn newid i adlewyrchu newidiadau a heriau i’n byd yn awr ac yn y dyfodol. I fynd i’r afael â’r heriau hyn, mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau fod gan eich plentyn y wybodaeth, sgiliau, profiadau a’r hyder i wneud y gorau o fywyd.

Bu athrawon ac arbenigwyr addysg yn cydweithio i ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru. Nod hyn yw paratoi plant i ffynnu mewn dyfodol lle mae sgiliau digidol, y gallu i addasu a chreadigrwydd yn hollbwysig, ac sydd wedi’i wreiddio yng ngwerthoedd a diwylliant Cymru.

Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn statudol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru a bydd yn cael ei ddilyn gan blant o dair oed. Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i gynllunio gyda dilyniant dysgwyr ynganolog ac mae’n darparu continwwm dysgu ar draws pob oedran.

Mae pob ysgol gynradd yn Sir Fynwy yn datblygu eu hymagweddau unigol at y Cwricwlwm i Gymru. Ar yr un pryd, cyflwynodd holl ysgolion uwchradd Sir Fynwy y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer holl ddisgyblion Blwyddyn 7 yn 2022 ac o 2026, bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i bob disgybl ysgol uwchradd.

Mae llawer o ysgolion yn Sir Fynwy yn parhau i gynllunio eu hymagwedd eu hunain at y Cwricwlwm i Gymru fel eu bod yn adlewyrchu anghenioneu disgyblion a chyd-destun yr ysgol a gwireddu’r pedwar diben sy’n sylfaen i’r cwricwlwm. Mae hyn yn golygu y bydd pob disgybl, beth bynnag fo’r ysgol, yn cael ei gefnogi i ddod yn:

ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

• gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith

• dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd

• unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.