Dyddiad cyhoeddi: 15/05/2026
Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn Llyfrgell y Fenni ddydd Gwener 15 Mai i nodi enwi Ystafell Gymunedol y llyfrgell yn swyddogol fel ‘Ystafell Raymond Williams’, i ddathlu un o ffigyrau diwylliannol mwyaf dylanwadol Cymru.
Awgrymwyd yr ymgyrch i enwi’r ystafell gan Glwb Llyfrau’r Fenni, a oedd yn awyddus i weld gwaddol neilltuol Williams yn cael cydnabyddiaeth yn lleol.

Ganed Raymond Williams ym Mhandy yn 1921 ac addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Fenni wedi iddo ennill ysgoloriaeth. Aeth ymlaen i fod yn awdur toreithiog, yn academydd ac yn ŵr cyhoeddus deallusol, a chyhoeddwyd ei waith cyntaf ym 1946. Ail-luniodd ei weithiau ffeithiol arloesol, gan gynnwys Culture and Society (1958) a The Country and the City (1973), y ffordd y deallir diwylliant yn sylfaenol.
Ochr yn ochr â’i ysgrifennu beirniadol, roedd Williams hefyd yn nofelydd medrus. Roedd gweithiau fel Border Country a People of the Black Mountains yn tynnu’n helaeth ar dirweddau a chymunedau’r ardal lle cafodd ei fagu. Er gwaethaf ei ddylanwad byd-eang a’i statws fel ffigwr anferth mewn meddwl diwylliannol, hyd yn hyn nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth gyhoeddus i Williams yn y Fenni.
Meddai’r Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, sy’n gyfrifol am Wasanaethau Diwylliannol: “Rwy’n falch y bydd ymwelwyr ag Ystafell Gymunedol ein llyfrgell yn gallu dysgu mwy am Raymond Williams. Mae’n un o’r meddylwyr pwysicaf y mae Cymru wedi’i gynhyrchu erioed, ac mae’n addas iawn ein bod yn cydnabod ei gyflawniadau yma yn y dref, lle dechreuodd ei daith. Rwy’ wrth fy modd, diolch i frwdfrydedd aelodau’r clwb llyfrau lleol, ein bod ni wedi gallu anrhydeddu ei waddol yn y ffordd ystyrlon hon.”
Daeth Dai Smith, un o haneswyr diwylliannol mwyaf uchel ei barch Cymru ac awdur bywgraffiad clodwiw Raymond Williams, i’r seremoni enwi. Roedd ei ymweliad yn dilyn ymddangosiad yn y Fenni ar y noson flaenorol, lle cafodd ei gyfweld gan Peter Wakelin yng Nghapel Theatr y Fwrdeistref.
Mae enwi Ystafell Raymond Williams yn deyrnged addas i fab o’r sir, y gosododd ei waith llenyddol yr ardal ar y ffin o amgylch y Fenni yn gadarn ar y llwyfan rhyngwladol.
