
Cyngor Sir Fynwy yw’r cyngor sir cyntaf yng Nghymru i dderbyn statws Cyngor Noddfa. Mae hyn sail i’w hymrwymiad i gefnogi pobl sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth. Gwnaed y penderfyniad i fynd ar drywydd achrediad yn dilyn cynnig yng nghyfarfod y cyngor llawn ym mis Medi 2023.
Mae’r achrediad wedi’i ddyfarnu gan fudiad City of Sanctuary UK yn dilyn asesiad gan banel o arbenigwyr.
Dywedodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rwy’n hynod falch bod Sir Fynwy wedi cael ei chydnabod yn Gyngor Noddfa. Mae’r achrediad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad hirsefydlog i fod yn sir groesawgar, dosturiol a chynhwysol, lle mae pobl sy’n ceisio diogelwch yn cael eu trin ag urddas a pharch. Mae’n dyst i ymroddiad ein cymunedau, ein partneriaid a’n staff sy’n gweithio bob dydd i sicrhau bod Sir Fynwy yn lle, ble y gall pawb berthyn a ffynnu. Hoffwn dalu teyrnged yn benodol i Grŵp Noddfa Tref y Fenni am eu hymrwymiad eithriadol i gefnogi ceiswyr noddfa a ffoaduriaid yng Nghymru.”
Ychwanegodd y Cyng. Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Un traddodiad sy’n ennyn balchder ein sir yw croesawu pobl sy’n ffoi rhag rhyfel, erledigaeth a chaledi. O’r ffoaduriaid o Wlad Belg a ddaeth i Gas-gwent yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, i’r cannoedd o deuluoedd o Wcráin a gafodd groeso gan ein trigolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae cymunedau Sir Fynwy wedi mynd ati’n gyson i ddangos empathi, caredigrwydd, haelioni ac undod. Nawr, yn fwy nag erioed mae’n hanfodol ein bod yn gallu croesawu pobl o bob cefndir, gyda charedigrwydd a chymorth ymarferol. Mae ein cymunedau yn haeddu’r fath gydnabyddiaeth yn gymaint ag y mae’r cyngor. Mae’n fan cychwyn, a byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â thrigolion a phartneriaid i sicrhau bod pawb yn teimlo’r croeso, teimlo eu bod yn ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi.”
Dywedodd Maggie Filipova-Rivers, Rheolwr Rhaglen City of Sanctuary UK ar ran Llywodraeth Leol “Pleser yw cydnabod mai Sir Fynwy yw’r cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflawni statws Cyngor Noddfa dan ein proses asesu cadarn.
“Roedd natur agored y cyngor, ei ddulliau wrth weithio mewn partneriaeth a’i ymrwymiad i ymgorffori noddfa a chroeso ar draws ei wasanaethau, wedi creu argraff fawr ar y panel. Mae’r dyfarniad hwn yn adlewyrchu’r cynnydd a wnaed, a’r ymrwymiad clir i barhau i feithrin cymunedau cynhwysol a chroesawgar.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Mae rhagor o fanylion am Fudiad Dinas Noddfa a’r broses ddyfarnu ar gael yn: https://cityofsanctuary.org/awards/
I gael rhagor o wybodaeth am gefnogaeth Cyngor Sir Fynwy i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/asylum-and-refugee-information/