Skip to Main Content

Mae’r dreth gyngor yn talu am wasanaethau lleol fel ysgolion, gwasanaethau gofal cymdeithasol, casglu gwastraff, cynnal a chadw ffyrdd a strwythurau, goleuadau stryd, hamdden a diwylliant, gwasanaethau brys a llawer mwy.


Mae mwyafrif y dreth gyngor yn mynd i’r awdurdod lleol, Cyngor Sir Fynwy, i’w wario ar wasanaethau lleol ond mae rhannau hefyd yn mynd i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chynghorau Cymuned.
Mae’r Cyngor hefyd yn derbyn incwm o drethi busnes, grantiau’r llywodraeth, ffioedd a thaliadau eraill, sydd i gyd yn cyfrannu at gost darparu gwasanaethau’r Cyngor.


Mae’r dreth gyngor hefyd yn cyfrannu at gostau a gwasanaethau eraill gan gynnwys rheoli adeiladau’r Cyngor, costau sy’n gysylltiedig â pholisi, strategaeth a chyfathrebu, costau rhedeg y gwasanaeth refeniw a budd-daliadau a chostau benthyca.

Darperir y wybodaeth isod ar gyfer trigolion sydd eisiau mwy o fanylion am sut mae’r Cyngor yn cynllunio ac yn rheoli ei gyllid.

Mae gwariant y Cyngor wedi’i rannu’n ddau gategori o’r enw refeniw a chyfalaf.

Mae cynllun cyllideb y Cyngor yn rhagweld cyllideb refeniw gyffredinol o £263 miliwn ar gyfer 2026/27. Mae hyn yn cynnwys symiau a gasglwyd ar ran yr Heddlu (£19.8 miliwn), a Chynghorau Tref a Chymuned (£4.2 miliwn).

Bydd y gyllideb refeniw yn cael ei hariannu gan:

  • Grant cymorth refeniw gan Lywodraeth Cymru o £111.3 miliwn
  • Ailddosbarthu trethi annomestig o £33.4 miliwn
  • Y Dreth Gyngor (CSF) o £94.3 miliwn
  • Y Dreth Gyngor (Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent) o £19.8 miliwn
  • Y Dreth Gyngor (Cynghorau Cymuned) o £4.2 miliwn

Mae cyllideb y Cyngor hefyd yn gweld buddsoddiad cyfalaf o £18.7 miliwn ar gyfer 2026/27.

Bydd y gwariant cyfalaf hwn yn ceisio cefnogi:

  • buddsoddiad yn ein seilwaith gan gynnwys strwythurau priffyrdd, ffyrdd, llwybrau troed, hawliau tramwy cyhoeddus ac ystadau eiddo
  • buddsoddi mewn cynlluniau cynhwysiant gan gynnwys grantiau cyfleusterau i bobl anabl a chynlluniau mynediad i bawb;
  • buddsoddiad yn ein hystad TGCh a rhwydwaith i wella gwydnwch ein darpariaeth gwasanaethau

Cliciwch yma (graffig i’w ddiweddaru ar gyfer 2025/26 i ddilyn) i weld sut mae eich Treth Gyngor yn cael ei defnyddio i gefnogi’r gwasanaethau a ddarparwn ac i weld ble rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein hasedau.

Ein cynllunio ariannol tymor canolig yw conglfaen sut rydym yn cynllunio ac yn rheoli ein harian. Mae’n nodi’r prif heriau a risgiau ariannol yr ydym yn disgwyl eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf.

Rydym yn diweddaru ein cynllun ariannol tymor canolig yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn adlewyrchu’r sefyllfa ddiweddaraf. Bydd y diweddariad nesaf yn canolbwyntio ar sut y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau ar y lefelau presennol, hyd yn oed wrth i’r galw a’r costau gynyddu, ac er bod ansicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol.

Bydd y cynllun yn tynnu sylw at y risgiau a’r heriau sy’n gysylltiedig â rheoli diffyg cyllidebol dros y tymor canolig. Bydd hefyd yn egluro’r dulliau y mae’r Cyngor yn eu hystyried i adeiladu dyfodol ariannol cynaliadwy, gan gefnogi gwasanaethau effeithlon ac effeithiol ar gyfer cymunedau Sir Fynwy. Bydd pob penderfyniad yn cyd-fynd â’n Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol a strategaethau allweddol eraill.