Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dod yn 2il yng Nghymru am ei chyfradd ailgylchu.

Mae’r ffigurau ar gyfer 2024-5 a ryddhawyd yn ddiweddar yn rhoi cyfradd o 72.3% i Sir Fynwy ar gyfer cyfran y gwastraff a gesglir sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio. Mae Sir Fynwy ychydig bach y tu ôl i’r arweinwyr, Sir Benfro, sydd â chyfradd o 73.5%.

Yn ôl yr ymchwil mae Cymru yn ail yn rhyngwladol am ailgylchu, ychydig bach y tu ôl i Awstria.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi arloesi ym maes ailgylchu. Yn y 1990au, roedd cyfraddau ailgylchu tua 5%. Yn fwy diweddar, mae hyn wedi codi i dros 68%.

Y data a ryddhawyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yw’r ystadegau cyntaf i gael eu cyhoeddi ers cyflwyno rheolau newydd ar gyfer gweithleoedd, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob busnes, pob gweithle yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector a phob casglwr i gadw deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu ar wahân.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, Catrin Maby: “Mae hyn yn newyddion gwych ac yn dyst i waith caled ac ymroddiad pobl ar draws Sir Fynwy i wneud y peth iawn i helpu ein hamgylchedd. Mae ailgylchu wir yn bwysig, ac yn ein helpu i leihau allyriadau carbon a faint o blastig sy’n cyrraedd ein priddoedd a’n cyrsiau dŵr.”

“Mae stori ailgylchu yng Nghymru yn enghraifft dda iawn o’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd fel cymdeithas i amddiffyn ein hamgylchedd. Mae gennym le i wella o hyd, ond rydyn ni wedi dangos ein bod ni’n gallu gwneud hyn. “