Datganiad gan Gyngor Sir Fynwy (CSF)
Digwyddodd y tirlithriad sylweddol islaw ffordd yr R1 rhwng Cwmyoy a Llanddewi Nant Hodni am y tro cyntaf ar 30 Ionawr. Ers hynny, mae’r tir wedi parhau i fod yn ansefydlog ac mae’n dal i ddirywio. Cofnodwyd symudiadau ychwanegol sylweddol yn ystod yr ymweliad cyhoeddus ar 2 Chwefror ac eto ar 3 Chwefror.
Am fod y llithriad wedi ffurfio ymyl fertigol yn union ger y gerbytffordd, mae unrhyw symudiadau pellach yn debygol o ddigwydd o dan arwyneb y ffordd. Gallai’r tarmac guddio arwyddion o gwymp hyd nes y bydd yn digwydd.
Oherwydd hynny, mae’r ffordd yn dal i fod yn anniogel dros ben.
Caewyd y ffordd ar 30 Ionawr gan nad oeddem y gwybod beth oedd graddfa’r llithriad i ddechrau. Wedi cau’r ffordd mae peirianyddion geodechnegol arbenigol wedi gallu archwilio’r safle. Ar sail eu cyngor — a’r dirywiad parhaus — rhaid i’r ffordd aros ar gau oherwydd y risg ddifrifol i ddiogelwch y cyhoedd.
Mae CSF yn cydnabod bod hyn yn tarfu. Fodd bynnag, mae rhai aelodau o’r cyhoedd wedi symud y rhwystrau concrit a’r arwyddion ac wedi parhau i ddefnyddio’r ffordd. Mae’r ffordd wedi cael ei chau am fod argyfwng ac mae’r trefniant yn un y gellir ei orfodi’n gyfreithiol. Mae CSF yn annog y cyhoedd yn gryf i beidio ag anwybyddu’r trefniant hwn i gau’r ffordd. Bydd y rhwystrau yn cael eu hailosod bob tro, ond mae ymyrryd dro ar ôl tro yn gostus ac yn beryglus.
Mae CSF yn gweithio gydag adrannau perthnasol a sefydliadau partner i gydlynu mesurau priodol ar gyfer gwasanaethau hanfodol gan gynnwys mynediad mewn argyfwng, trafnidiaeth ysgolion, casglu sbwriel a darpariaethau allweddol eraill.
Bydd y ffordd yn aros ar gau hyd nes bod modd dylunio datrysiad peirianyddol diogel a’i weithredu. Mae CSF wedi dechrau’r gwaith ymchwilio, monitro a dylunio gofynnol.
Gwybodaeth am Gau Ffyrdd
Cliciwch yma ar gyfer R1, Cwmyoy RHYBUDD O FWRIADAU
Adroddiad Geodechnegol
Adroddiad Archwilio Tirlithriad R1 Cwmyoy Chwefror 2026
Resident Impact Survey
More information on a Resident Impact Survey will be added in future updates.
Cynllun o’r Lleoliad
(cliciwch ar y map isod i’w ehangu)

Cwestiynau Cyffredin
Ymyrryd â Rhwystrau
Mae’n drosedd ymyrryd â rhwystrau sy’n cau ffyrdd neu anwybyddu trefniant cau ffordd cyfreithiol.
O dan Adran 16(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984,
“Bydd unigolyn sy’n torri cyfyngiad neu waharddiad a osodir o dan Adran 14 y Ddeddf yn euog o drosedd.”
Gellir gorfodi hyn a gallai arwain at gamau cyfreithiol.
Pam na all y ffordd ailagor gyda mesurau dros dro yn eu lle?
Mae’r llithriad yn parhau i symud a gallai fethu heb rybudd, o dan y gerbytffordd. Nid oes unrhyw fesur dros dro a allai wneud y ffordd yn ddiogel i ddefnyddwyr.
Pa waith sydd ar y gweill?
Mae CSF a’i bartneriaid yn symud ymlaen gyda’r camau canlynol:
- Cynnal arolwg topograffig llawn
- Cysylltu ag ymgymerwyr statudol (cyfleustodau)
- Dod i gyswllt ag awdurdodau lleol cyfagos
- Archwilio pob llwybr amgen
- Cael caniatâd tirfeddianwyr ar gyfer mynediad
- Trefnu ymchwiliad tir geodechnegol llawn
- Datblygu dyluniad peirianegol diogel i ailagor y ffordd
Am ba mor hir fydd y ffordd ar gau?
Bydd y ffordd yn dal i fod ar gau hyd nes i’r gwaith o archwilio’r tir, monitro, dylunio ac adeiladu datrysiad i sefydlogi’r tir, wedi ei gwblhau. Bydd yr amserlenni yn dibynnu ar ganfyddiadau’r arolwg.
Sut fyddwn ni’n diweddaru trigolion?
Byddwn yn rhannu’r newyddion diweddaraf trwy wefan CSF, cyfathrebiadau lleol ac ymgysylltiad uniongyrchol â chymunedau y mae hyn yn effeithio arnynt.
Ydyn ni wedi cysylltu â darparwyr gwasanaeth ffôn symudol am broblemau signal yn yr ardal?
Ydyn. Rydym wedi cysylltu â’r brif ddarparwyr gwasanaeth ffôn symudol i ymchwilio a oes unrhyw namau neu darfu’n effeithio ar y signal yn yr ardal. Mae’r holl ddarparwyr — gan gynnwys EE, Vodafone, Three ac O2 — wedi cadarnhau nad oes unrhyw ddiffygion rhwydwaith nac unrhyw broblemau gwasanaeth adnabyddus ar hyn o bryd sy’n effeithio’r ardal. Mae darparwyr hefyd wedi cadarnhau nad yw gwasanaethau 3G yn weithredol bellach, a gall hyn effeithio ar ddyfeisiau hŷn sydd ddim yn cefnogi 4G. O ganlyniad, efallai y bydd rhai trigolion yn sylwi ar signal gwannach tu fewn.
Gan fod yr ardal yn wledig ac yn anghysbell, dywedwyd wrthym y disgwylir mannau o wasanaeth isel hyd yn oed pan fo mastiau’n gweithio’n iawn. Dywedodd y darparwyr hefyd, hyd yn oed pe bai un mast yn methu, y dylai nodweddion modern y rhwydwaith (megis vector overlay) atal tarfu mawr, a bydd galwadau 999 yn gallu cysylltu o hyd trwy rwydweithiau eraill sydd ar gael.
Ydyn ni wedi cysylltu â’r Fyddin / y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) i ofyn am gymorth a gefnogaeth filwrol?
Ydyn. Mae’r cyngor wedi siarad yn uniongyrchol â’n swyddog cyswllt MOD i egluro’r sefyllfa ac i archwilio a allai cymorth o dan Military Aid to the Civil Authorities (MACA) fod yn berthnasol. Rydym wedi cael gwybod bod modd cymeradwyo MACA dim ond pan gaiff meini prawf penodol a llym eu bodloni. Yn yr achos hwn, nid ydy’r achos wedi cwrdd â’r trothwy hynny, ac felly nid oedd modd symud y cais ymhellach.
Ydy Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael cais i ganiatáu defnyddio’r ffordd goedwig uwchben y cwm?
Ydyn. Rydym wedi cysylltu gyda CNC sy’n edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio’r ffordd dân fel llwybr arall ar gyfer y gwasanaethau brys. Mae’r llwybr hwnnw hefyd wedi’i effeithio gan dirlithriadau a ystyrir ar hyn o bryd yn anaddas ar gyfer traffig cyffredinol, er bod y llwybr wedi’i ddefnyddio gan wasanaeth Achub Mynydd. Mae’r cyngor wedi cynnig cymorth os oes angen, ond mae’r cynnig i ail-alinio’r ffordd yn parhau i fod y dewis mwyaf addas ar gyfer mynediad tymor byr a thymor hir.
Am ragor o wybodaeth, neu unrhyw ymholiadau pellach, anfonwch e-bost at MCCAssetManagement@monmouthshire.gov.uk