Os wnaeth llifogydd taro eich cartref gan Storm Claudia, gallwch gael hyd at £1,000 o gymorth.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweinyddu’r Cynllun Cymorth Ariannol Brys ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r cymorth ariannol hwn yn darparu £500 i aelwydydd sydd ag yswiriant neu £1,000 i aelwydydd nad ydynt wedi’u hyswirio.
I wneud cais am y cyllid hwn, bydd angen i chi gwblhau ffurflen fer:
I fod yn gymwys, rhaid i’r eiddo fod yn brif gartref i chi, a bod yr ardal fewnol lle mae pobl yn byw (e.e. ystafell fyw, ystafell wely, cegin, ac ati) wedi’i heffeithio gan lifogydd yn uniongyrchol o ganlyniad i Storm Claudia.
Nid yw llifogydd i erddi, garejys, adeiladau allanol, pyrth, ac ati yn gymwys.
Mae cymhwystra wedi’i gyfyngu i berchnogion/meddianwyr eiddo preswyl ac nid yw ar gael i landlordiaid. Nid yw eiddo gwag na chartrefi ail breswyl yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol hwn.
I wneud cais, bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
- Enw llawn
- Cyfeiriad y cartref yr effeithiwyd arno
- Cyfeirnod Treth y Cyngor
- Manylion cyfrif banc y cyfrif y dylid gwneud y taliad iddo
- Manylion yswiriant cartref lle bo’n berthnasol (enw’r cwmni a rhif y polisi)
Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau’r ffurflen hon, rhowch wybod i ni drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01633 644644 (Dydd Llun i Dydd Iau 9:00 – 5:00, Dydd Gwener 9:00 – 4:30).
I gwblhau a phrosesu eich cais, rhaid i ni wirio bod eich eiddo wedi’i effeithio gan lifogydd yn unol â’n cofnodion.
Os na allwch symud yn ôl i’ch cartref oherwydd y llifogydd, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael gostyngiad Treth y Cyngor am hyd at chwe mis. Os hoffech wneud cais am y gostyngiad hwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Refeniw a Rennir drwy e-bostio counciltax@monmouthshire.gov.uk neu drwy ffonio: 01633 644630.
Cymorth ariannol i fusnesau yn Sir Fynwy
Os yw eiddo eich busnes wedi’i effeithio gan lifogydd Storm Claudia ac nad ydych wedi gallu gweithredu na masnachu, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad ar gyfraddau busnes am hyd at 3 mis. Os hoffech wneud cais am y gostyngiad hwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Refeniw a Rennir drwy e-bostio counciltax@monmouthshire.gov.uk neu drwy ffonio: 01633 644630.