Mae Cyngor Sir Fynwy newydd lansio ymgynghoriad newydd, a fydd yn mynd tan ddydd Sul, 14 Rhagfyr 2025, o gylch thema diwylliant a gweithgareddau diwylliannol yn y sir.
Mae ymgynghoriad Siarad am Ddiwylliant yn gofyn am eich meddyliau a’ch syniadau i helpu i lunio’r Strategaeth Ddiwylliannol arfaethedig ar gyfer Sir Fynwy rhwng 2025 a 2035.
Os ydych chi’n ymwneud â gweithgareddau diwylliannol neu os oes gennych ddiddordeb mewn gweithgareddau diwylliannol fel celf, perfformio, drama, cerddoriaeth, crefftau, neu hanes, neu os oes gennych farn am yr hyn y dylai byd diwylliannol Sir Fynwy ei gwmpasu, rydym yn eich annog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Bydd y wybodaeth y bydd yr arolwg ymgynghori yn ei chasglu yn helpu i lunio Strategaeth Ddiwylliannol arfaethedig y cyngor gyda’r nod o sbarduno newid cadarnhaol ar draws y sir a gwneud diwylliant yn fwy cynhwysol, hygyrch a gweladwy i bawb yn Sir Fynwy.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am ddiwylliant: “Mae diwylliant yn rhan annatod o’r sir a’i hunaniaeth. Mae’n rhoi profiadau creadigol ar y cyd lle gallwn fynegi, dysgu a myfyrio ar ein hanes, ein lle, materion cymdeithasol a’n bywydau personol. Gall y profiadau hyn wella ein lles, cryfhau cymunedau a helpu i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol ar gyfer cyflogaeth a gwell ansawdd bywyd.
“Mae diwylliant yn perthyn i bawb, ac felly hefyd y strategaeth a’r cynllun gweithredu hwn. P’un a ydych chi’n berfformiwr, yn grëwr, yn ymwelydd, yn aelod o’r gynulleidfa neu’n ennill eich bywoliaeth trwy’r diwydiannau diwylliannol rydym am glywed gennych. Beth sy’n dda? Beth allai fod yn well? Rhannwch eich barn a gweithiwch gyda ni ar gyfer dyfodol bywiog Sir Fynwy”
Gallwch ddysgu mwy am yr ymgynghoriad a sut i gymryd rhan drwy ymweld â llwyfan ymgysylltiad y cyngor, Sgwrsio Am Sir Fynwy erbyn 23.59 o’r gloch ddydd Sul 14 Rhagfyr.
Ffyrdd eraill o gymryd rhan: Gallwch hefyd gasglu (a dychwelyd) arolygon papur yn unrhyw un o Hybiau Cymunedol y cyngor, Amgueddfa Cas-gwent, Canolfan Groeso Cas-gwent, Amgueddfa’r Fenni a Borough Theatre.
Dysgwch fwy yn www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/diwylliant
Tags: consultation, let's talk, Monmouthshire