Skip to Main Content

Cafodd Cyngor Sir Fynwy sgôr uwch nag unrhyw awdurdod lleol arall yn y Deyrnas Unedig am ei waith ar Ostwng Gwastraff a Bwyd, yn y Cardiau Sgorio Cynghorau Gweithredu ar yr Hinsawdd a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Caiff y Cardiau Sgorio Gweithredu ar yr Hinsawdd eu hasesu gan

Climate Emergency UK i ganfod pa mor dda mae cynghorau yn ei wneud wrth berfformio wrth weithredu tuag at Sero Net.

Seiliwyd y cardiau sgorio ar asesiad o’r themâu canlynol:

  • Adeiladu a Gwres
  • Cludiant
  • Cynllunio a Defnydd Tir
  • Llywodraethu a Chyllid
  • Bioamrywiaeth
  • Cydweithio ac Ymgysylltu
  • Gostwng Gwastraff a Bwyd

Hwn yw’r ail dro i Climate Emergency UK gyhoeddi’r Cardiau Sgorio. Cyngor Sir Fynwy gafodd y sgôr uchaf unrhyw le yn y Deyrnas Unedig am ei waith ar Ostwng Gwastraff a Bwyd. Ni hefyd gafodd yr ail sgôr uchaf drwyddi draw yng Nghymru, ar draws y saith thema.

Dywedodd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd ar Gyngor Sir Fynwy: “Mae’r cynllun hwn yn cydnabod y gwaith y buom yn ei wneud mewn dau faes allweddol, ynghyd â’n cymunedau yn Sir Fynwy.

“Yn gyntaf, gostwng gwastraff drwy ailddefnyddio, trwsio ac ailgylchu, a chefnogi prosiectau economi gylchol newydd tebyg i oergelloedd cymunedol a Benthyg.

“Ar fwyd, cawsom ein cydnabod ar ein gwaith ar Strategaeth Fwyd Cynaliadwy a Phartneriaeth Bwyd, gyda chynhyrchwyr bwyd, ffermwyr, prosiectau tyfu cymunedol, ysgolion a phobl ifanc.

“Gallwn ymfalchïo yn yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni ond gwyddom hefyd fod angen i ni ddal ati i wneud yn well ar draws yr holl themâu hyn er budd cenedlaethau’r dyfodol a hefyd lesiant pobl yn Sir Fynwy heddiw.”