Skip to Main Content

Trwydded Hebryngwr

Rheoleiddiwyd o dan Ddeddf Plant Pobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.

Mae’n ofyniad cyfreithiol bod yn rhaid i blant sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus, sy’n gweithio mewn teledu, ffilm, modelu â thâl neu weithgareddau chwaraeon, o dan drwydded a gyhoeddwyd gan yr awdurdod lleol, gael eu goruchwylio gan Hebryngwr a gymeradwywyd gan y cyngor, oni bai eu bod yng ngofal eu rhiant, gwarcheidwad cyfreithiol neu, mewn amgylchiadau penodol, athro.

Dyletswydd gyntaf Hebryngwr yw i’r plentyn yn eu gofal. Maent yn gyfrifol am ddiogelu, cefnogi a hyrwyddo lles y plentyn, a rhaid iddynt beidio â chymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd a fyddai’n ymyrryd â’u dyletswyddau.

Rhaid i Hebryngwyr aros gyda’r plentyn bob amser ac yn gallu gweld y plentyn pan fyddant ar y llwyfan, set neu’n perfformio. Bydd yr union ddyletswyddau, wrth i’r plentyn fod yn lleoliad y perfformiad neu’r gweithgaredd, yn amrywio yn dibynnu ar y math o berfformiad neu weithgaredd. Fodd bynnag, eu prif ddyletswyddau yw sicrhau bod y plentyn/plant yn cael eu goruchwylio’n briodol pan nad ydynt yn perfformio, ac yn cael prydau bwyd, amser gorffwys a hamdden digonol. Rhaid i hebryngwyr hefyd sicrhau bod cyfleusterau newid addas yn cael eu trefnu gan y cwmni neu’r lleoliadau, gydag ystafelloedd newid ar wahân i fechgyn a merched dros bump oed.

Gall Hebryngwr oruchwylio hyd at 12 o blant. Fodd bynnag, oherwydd gofynion y perfformiad, neu oedran, rhywedd neu anghenion arbennig y plant, gall yr awdurdod lleol benderfynu mai dim ond am nifer llai o blant y gall Hebryngwr fod yn gyfrifol amdanynt, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n briodol.

Mae’r broses gofrestru ar gyfer Hebryngwyr yn Sir Fynwy yn cynnwys y canlynol:

  • Ffurflen gais wedi’i chwblhau
  • Un ffotograff maint pasbort heb hidlwyr / cefndir plaen
  • Cymeradwyaeth foddhaol gan ddau eirda
  • Tystysgrif Gwasanaeth Gwahardd Datgelu manwl (GDG)
  • Presenoldeb ar gwrs hyfforddiant gorfodol Sir Fynwy ar gyfer Hebryngwyr  
  • Cwblhau cwrs gorfodol Diogelu Lefel 1 Sir Fynwy drwy SWAY

Mae Trwydded Hebryngwr yn ddilys am 2 flynedd o ddyddiad y dystysgrif GDG. Bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at Gronfa Ddata Hebryngwyr a bydd trwydded bapur yn cael ei chyhoeddi. Rhaid i chi gario’r drwydded hon gyda chi ar gyfer pob perfformiad, pan fyddwch yn cyflawni rôl Hebryngwr.

Byddwch yn ymwybodol mai eich cyfrifoldeb chi yw gwneud cais am drwydded newydd ar ddiwedd y 2 flynedd.  Bydd methu â gwneud hynny yn golygu na chaniateir i chi fwyach hebrwng mewn unrhyw berfformiad ac ni ellir cael eich ychwanegu fel hebryngwr trwyddedig at unrhyw geisiadau a dderbynnir

Gwnewch gais am drwydded Hebryngwr

E-Bost:

ChaperonePerformanceLicensing@monmouthshire.gov.uk

Hyfforddiant

Cynhelir y cwrs hyfforddi Hebryngwr nesaf ddydd Mawrth 27 Ionawr 2026 am 3:30pm ar Microsoft Teams.

Anfonwch e-bost at ChaperonePerformanceLicensing@monmouthshire.gov.uk i archebu lle os gwelwch yn dda.

Rheoliadau a Dogfennau Canllaw

Mae’n bwysig bod ymgeiswyr yn darllen ac yn ymgyfarwyddo â’r dogfennau a’r ddeddfwriaeth ganlynol er mwyn sicrhau eu bod yn deall y rheolau a’r rheoliadau wrth wneud cais i ddod yn Hebryngwr.

Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar y wefan ganlynol:

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Rachael Worrad

ffôn 07866005202

Rachelworrad@monmouthshire@gov.uk

Annalisa Williams

ffôn 07877015454