Dydd Llun 9 – Dydd Sul 15 Mehefin yw Wythnos Bwyd a Ffermio Cymreig – isod mae rhestr o ddolenni defnyddiol i ddarganfod mwy am brosiectau bwyd, cynnyrch a marchnadoedd bwyd lleol.
Galwch Heibio
Marchnadoedd
Maint bach. Crefftus. Ymroddgar. Ymarferol. Dewch i gwrdd â’n gwneuthurwyr mewn marchnadoedd rheolaidd ledled y sir er mwyn cael blas go iawn ar Sir Fynwy. https://cy.visitmonmouthshire.com/bwyd-a-diod/marchnadoedd-sir-fynwy
Amgueddfa Bywyd Gwledig Brynbuga
Wedi’i lleoli mewn ysgubor brag hynafol gydag adeiladau cyfagos, mae gan yr Amgueddfa dros 5000 o arddangosion a gasglwyd gan selogion lleol dros y 50 mlynedd diwethaf er mwyn gwarchod treftadaeth bywyd a gwaith pobl wledig y Gororau o oes Fictoria ymlaen. Mae’r amgueddfa’n gartref i gasgliad unigryw o dros 5000 o arteffactau o’r offer llaw lleiaf ac eitemau cartref i beiriannau amaethyddol mawr a hen dractorau. https://www.uskmuseum.org/
Prosiectau a Phartneriaethau
Partneriaeth Fwyd Sir Fynwy
Rhan o rwydwaith ledled y DU o bobl sy’n gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo bwyd da a gwneud y byd yn lle gwell. https://foodmonmouthshire.co.uk/cy/
Bwyd Cymreig mewn ysgolion
Mae Sir Fynwy yn rhan o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, ac mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan Synnwyr Bwyd Cymru.
Strategaeth Fwyd Lleol
Mae Cyngor Sir Fynwy yn datblygu strategaeth fwyd lleol a fydd yn llywio ein gwaith yn y dyfodol.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y strategaeth fwyd lleol.