Skip to Main Content

Mae Gwasanaeth Mynediad Cefn Gwlad MonLife wedi ymuno â Bethany Handley i godi ymwybyddiaeth am wella mynediad i bawb.

Wedi’i ariannu drwy Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru, mae dau fideo wedi’u ffilmio i godi ymwybyddiaeth ac i hyfforddi gwirfoddolwyr/tirfeddianwyr am yr angen i gael gwared ar rwystrau i bobl er mwyn iddynt gael mynediad i gefn gwlad y sir.

Mae Bethany Handley yn byw yn Sir Fynwy, yn aelod o Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy ac yn llysgennad ar gyfer ymgyrch Mynediad i Bawb Byw Gwledig, Llwybr Arfordir Cymru, Llwybrau Cenedlaethol a Cherddwyr Cymru. Mae hi wedi cael ei chydnabod fel un o’r deg person anabl mwyaf dylanwadol sy’n gweithio yng ngwleidyddiaeth, y gyfraith a’r cyfryngau yn y DU.

Dywedodd Bethany Handley: “Mae gan bob un ohonom ofynion mynediad. Mae un o bob pump o bobl yn anabl. Ar ryw adeg yn ein bywydau, efallai y byddwn ni gyd yn profi anabledd.

“Pan fyddwch yn eithrio un unigolyn, rydych chi hefyd yn eithrio’u teulu a’u ffrindiau. Mae yna ffyrdd i bawb: gwirfoddolwyr, tirfeddianwyr, a’r rhai sy’n cerdded ac yn olwyna ar lwybrau, i wneud ein llwybrau’n fwy hygyrch i bawb”.

Nododd y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Sir Fynwy oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu (yn 2004) bolisi mynediad lleiaf cyfyngol. Oherwydd y polisi, rydym wedi ymrwymo i leihau rhwystrau mynediad ar y rhwydwaith hawliau tramwy a chael gwared ar stiles presennol.

“Mae’n un o’r ffyrdd rydyn ni’n mynd i’r afael ag anfantais o fewn cymunedau. Rwy’n falch iawn ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Bethany ac yn cyflwyno’r neges bod cefn gwlad i bawb.

“Mae gwella hygyrchedd ein rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn greiddiol i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Mae’n ei gwneud hi’n haws i bobl ymgorffori cerdded, marchogaeth neu feicio yn eu bywydau bob dydd ac yn cefnogi ffyrdd o fyw iach egnïol. Hoffem ddiolch i’r holl dirfeddianwyr, sefydliadau a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda ni i gael gwared ar rwystrau a gwneud ein cefn gwlad yn fwy hygyrch i bawb.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Sirol Sarah Burch, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, “Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi a galluogi grwpiau gwirfoddol cymunedol i ymgysylltu’n weithredol â phrosiectau cefn gwlad, gan greu cymunedau cynaliadwy a gwydn.

“Diolch i’r Grant Gwella Mynediad, mae gennym bellach 17 o grwpiau gwirfoddol gweithredol, sydd wedi cael eu cefnogi gyda hyfforddiant, offer a deunyddiau.

“Maen nhw wedi cynnal milltiroedd o arolygon ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi helpu i wella mynediad trwy gael gwared ar steiliau a’u disodli gyda bylchau neu gatiau (68). Maent hefyd wedi clirio llystyfiant o wyth milltir o lwybrau a 466 o ddarnau o ddodrefn. Mae llawer mwy o lwybrau ar y gweill o ran gwelliannau yn 2025 ac rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn nawr eu hyrwyddo’n well.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwared ar rwystrau neu ymuno â grŵp gwirfoddolwyr mynediad cefn gwlad, cysylltwch â’r Tîm Mynediad i Gefn Gwlad drwy e-bostio countryside@monmouthshire.gov.uk Am ragor o wybodaeth, gallwch hefyd ymweld â’r dudalen we https://www.monlife.co.uk/cy/outdoor/countryside-access/countryside-access-projects-delivery-plan/