Ym mis Mai 2024 cytunodd y Cabinet ar y Strategaeth ar gyfer Gofal Cartref wedi ei Gomisiynu yn Sir Fynwy 2024-2034 a chynllun gweithredu yn cynnwys caffael contractau bloc a system prynu yn ôl y galw.
Mae gan y strategaeth dair amcan:
- Darparu gofal cartref cynaliadwy ansawdd uchel i’r rhai gydag angen a aseswyd o fewn Sir Fynwy.
- Uchafu effeithlonrwydd cost y gofal a brynwyd, gyda llai o amrywiaeth cost rhwng darparwyr.
- Gwella a safoni telerau ac amodau ar gyfer y gweithlu gofal cartref, gan gefnogi sefydlogrwydd gweithlu o fewn darparwyr.
Cwblhaodd Cyngor Sir Fynwy broses dendro yn ddiweddar ar gyfer contractau bloc ar gyfer gwasanaethau gofal cartref yn rhan ddeheuol y sir: Cas-gwent a’r ardaloedd gwledig o amgylch, Cil-y-coed, Porthsgiwed, Sudbrook, Magwyr, Gwndy, Rogiet a’r Gwastadeddau. Mae hyn yn golygu y bydd gan y darparwyr llwyddiannus oriau wedi eu gwarantu mewn lleoliad penodol.
Cynhaliwyd y tendr er mwyn sicrhau trefniadau cadarn a sefydlog ar gyfer preswylwyr yn yr hirdymor a sicrhau darpariaeth gofal a chymorth ansawdd uchel.
Rydym wedi sefydlu contractau newydd gyda thri darparydd profiadol iawn, y cyfan ohonynt yn darparu gofal a chymorth i’n preswylwyr yn y sir ar hyn o bryd.
Mae’r cyngor bob amser yn dilyn prosesau cyfreithiol sydd wedi hen ennill eu plwyf ar gyfer tendro contractau newydd yn unol â rheoliadau a chanllawiau caffael.
Gellir sicrhau preswylwyr fod gan y cyngor gynlluniau i leihau tarfu yn ystod cyfnod pontio o dri mis. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r darparwyr cyfredol a darparwyr newydd i sicrhau y caiff staff sy’n gymwys ac sy’n dymuno trosglwyddo i’r darparydd newydd (dan TUPE) eu cefnogi i wneud hynny, gan felly sicrhau parhad gofal lle bynnag sy’n bosibl.
Mae’r cyngor yn ymroddedig i gefnogi cynaliadwyedd a dewis o fewn y tirlun darparwyr. Drwy weithio gyda llai o ddarparwyr mewn ardaloedd daearyddol penodol ar draws y sir, gallwn sicrhau gofal mwy sefydlog ar gyfer darparwr, gan alluogi partneriaethau sydd wedi integreiddio mwy i gefnogi unigolion a bydd hefyd yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.
Isod mae rhai cwestiynau cyffredin am y newidiadau.
C. Pam fod y newid hwn yn digwydd?
Yn 2024, datblygodd y cyngor strategaeth ar gyfer Gofal Cartref wedi ei Gomisiynu yn Sir Fynwy (2024-2034).
Mae’r strategaeth yn nodi cynllun ar gyfer prynu a darparu gofal cartref dros y 10 mlynedd nesaf, gan ein galluogi i wella’r gwasanaeth ar gyfer pobl sy’n derbyn gofal a’r staff sy’n darparu’r gofal.
Dan gyfraith caffael, mae gan y cyngor rwymedigaeth i aildendro’r contractau sydd ganddo gyda Darparwyr Gofal a Chymorth Cartref. Caiff y contractau newydd a ddyfernir eu trefnu yn ardaloedd daearyddol, gyda un Darparydd Gofal a Chymorth Cartref ym mhob ardal. Dyna pam y gall eich darparydd fod wedi newid.
C. A all pobl aros gyda’u darparydd presennol a beth yw eu hopsiynau os nad ydynt eisiau trosglwyddo i Ddarparydd Gofal Cymorth newydd?
Os yw unigolion y mae eu gofal yn newid yn dymuno i’r cyngor barhau i brynu gofal ar eu rhan, bydd angen iddynt symud at ddarparwyr Gofal a Chymorth newydd. Bydd eu gofal yn trosglwyddo i’r Darparydd Gofal a Chymorth Cartref yn gynnar ym mis Gorffennaf 2025 (union ddyddiad i’w gadarnhau).
Fodd bynnag, os yw’r rhai y mae eu gofal yn newid eisiau parhau gyda’u Darparydd Gofal a Chymorth Cartref presennol, efallai y gallant drefnu i dalu’n breifat a phrynu eu gofal eu hunain neu efallai y byddant yn dymuno ystyried gwneud cais am Daliad Uniongyrchol gan y cyngor.
C. A fydd fy staff gofal presennol yn newid?
Pam gaiff gofal unigolyn ei drosglwyddo i Ddarparydd Gofal a Chymorth Cartref newydd, gall eu staff gofal presennol hefyd fod yn gymwys i drosglwyddo eu cyflogaeth. Os felly, bydd y Darparydd Gofal Chymorth Cartref newydd eisiau cadw’r un gofalwyr yn gweithio gyda’r un bobl lle’n bosibl i sicrhau parhad a lleihau’r angen am newid.
Gall rhai staff ddewis gweithio mewn ardal wahanol i aros gyda’u cyflogwr presennol. Os yw hyn yn digwydd, gall fod angen i staff gofal newid. Fodd bynnag, rydym eisiau rhoi sicrwydd i chi bod yr holl staff gofal wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn derbyn yr un cyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae’n ofynnol i’n holl bartneriaid darparydd gofal cartref ddarparu gwasanaethau safon uchel, ac er y gall gymryd peth amser i setlo i’r newid, bydd y gofalwyr newydd eisiau adeiladu perthynas o ymddiriedaeth a darparu gwasanaeth gofal a chymorth ansawdd da.
Bydd y cynllunio pontio a gweithredu sydd ar fin digwydd rhwng y darparwyr presennol a darparwyr newydd yn sefydlu pa ofalwyr fydd yn trosglwyddo i’r asiantaethau newydd. Bydd hyn wedyn yn galluogi’r darparwyr newydd i gadarnhau wrth unigolion os mai’r un person fydd yn ofalwr iddynt neu os bydd yn rhywun newydd. Bydd yr wybodaeth hon ar gael cyn gynted ag y gweithiwyd ar y manylion .
C. A fydd lefel fy ngofal a chymorth yn newid?
Ni fydd unrhyw newid i Gynlluniau Gofal a Chymorth pobl. Ni fydd faint o oriau o ofal a gaiff pobl yn newid os na chaiff eu hanghenion gofal a chymorth eu hadolygu.
C. A fydd fy amserau galw yn newid?
Fel rhan o’r cynllun trosglwyddo, bydd y Darparwyr Gofal a Chymorth Cartref newydd yn cysylltu â phobl i drafod sut i gynnal eu gwasanaeth. Bydd pob Darparydd Gofal a Chymorth yn ceisio anrhydeddu trefniadau presennol lle’n bosibl.
C. A fydd y swm a dalaf am fy ngofal yn newid?
Ni fydd y swm a dalwch am eich gofal a chymorth yn newid. Ni fydd y newid yn eich Darparydd Gofal a Chymorth Cartref yn effeithio ar y tâl a aseswyd ar eich cyfer.
C. Pryd fydd y newid hwn yn digwydd?
Cysylltir yn unigol gyda phawb y mae’r newidiadau hyn yn effeithio arnynt i’w hysbysu pryd y caiff eu gofal ei drosglwyddo i’r Darparydd Gofal a Chymorth newydd. Rhagwelwn y bydd y trosglwyddo yn digwydd erbyn dechrau Gorffennaf 2025. Fodd bynnag, gall hyn newid a byddwn yn hysbysu pawb yr effeithir arnynt a byddwn yn diweddaru’r dudalen hon fel sydd angen.
C. Beth sy’n digwydd nesaf?
Dros y tri mis nesaf, bydd y cyngor yn gweithio gyda’r darparwyr presennol a’r darparwyr newydd i oruchwylio trosglwyddo’r holl wasanaethau gofal a chymorth.
Bydd y darparydd gofal a chymorth newydd yn cysylltu â phawb y mae eu gofal yn cael ei drosglwyddo i’w cyflwyno eu hunain a dweud wrthynt am y sefydliad a’r gwasanaeth y byddant yn ei ddarparu. Byddant yn trefnu i siarad gyda phobl ac ymweld â nhw os byddai’n well ganddynt hynny i drafod eu hanghenion gofal a chymorth.
C. Beth os wyf yn derbyn gofal ar hyn o bryd ac angen siarad gyda rhywun?
Gallwch gysylltu â’ch tîm gwaith cymdeithasol i drafod unrhyw bryderon am eich gofal a chymorth neu am y broses a ddisgrifir uchod:
- Tîm Integredig Cas-gwent: chepstowltadmin@monmouthshire.gov.uk / 01291 636531
- Tîm Iechyd Meddwl: mentalhealthadmin2@monmouthshire.gov.uk / 01873 735455
- Tîm Anabledd Dysgu yn y Gymuned: cldtadmin@monmouthshire.gov.uk / 01873 735455