
Cynorthwyydd Marchnata, Rhaglennu a Gwerthiant EBTA8
Dylech fod yn chwilfrydig ac yn angerddol am sioeau a digwyddiadau ac yn awyddus i weithio a dangos i eraill ymrwymiad i safonau uchel mewn gwasanaeth cwsmeriaid a gofal. Byddwch wedi ymrwymo i bwysigrwydd profiad cynulleidfa o bob math o gyflwyniadau o ddigwyddiadau corfforaethol i gyflwyniadau yn y gymuned.
Mae gwaith gyda’r nos, adeg Gwyliau yn ffurfio rhan annatod o ddyletswyddau’r rôl hon.
Bydd y Cynorthwyydd Marchnata, Rhaglennu, a Gwerthiant yn gyfrifol am sicrhau bod cwsmeriaid i’r swyddfa docynnau yn cael croeso cynnes a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu y tu hwnt i ddisgwyliadau, gan gynyddu teyrngarwch, ymweld yn aml ac eiriolaeth gan ein cwsmeriaid.
Rydym yn chwilio am unigolion hyderus, cyfeillgar a hawdd mynd atynt sy’n frwdfrydig iawn i ragori yn eu gwaith ac sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau. Bydd gan y Cynorthwyydd Marchnata, Rhaglennu, a Gwerthiant wybodaeth ardderchog am y cynnyrch a bydd yn gallu siarad yn hyderus ac yn angerddol am yr ystod lawn o gynhyrchion a gwasanaethau y mae’r Sinema yn eu cynnig.
Cyfeirnod Swydd: EBTA8
Gradd: Band B ((£22,737 - £23,500 pro rata)
Oriau: 11.5 Awr yr Wythnos
Lleoliad: Theatr y Fwrdeistref, Y Fenni a Neuadd y Dref a'r Farchnad
Dyddiad Cau: 05/09/2024 5:00 pm
Dros dro: ie (31 Mawrth 2025)
Gwiriad DBS: NAC OES