Skip to Main Content

Na. Daeth cyfnod y contract presennol i ben a byddai Raglan Dairy wedi gwybod am hynny. Mae’n ofyniad cyfreithiol ar Gyngor Sir Fynwy i sicrhau ein cyflenwad drwy broses gystadleuol. Roedd y fframwaith blaenorol yn agosáu at ddiwedd ei gyfnod cyfreithiol ac roedd angen ei aildendro.

Mae’r Fframwait Fwyd yn ddull gweithredu ar y cyd gyda 20 o gyrff cyhoeddus Cymru eraill a gafodd ei ail-dendro yn ddiweddar, a chafodd y cynigion eu gwerthuso ar 30% pris a 70% ansawdd. Dechreuodd gwaith ar y tendr newydd y llynedd ac mae’n cynnwys 16 Awdurdod Lleol, 2 Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae hefyd lot cenedlaethol (h.y. agored i bawb). Mae’r fframwaith am dair blynedd.

Cafodd Totally Welsh statws prif gyflenwr i ddarparu llaeth i Sir Fynwy. Mae’n gwmni o Sir Benfro gyda chanolfan ddosbarthu yng Nghaerdydd. Deallwn ar hyn o bryd mai dim ond llaeth Cymreig o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion y maent yn ei ddefnyddio ac mae ganddynt safle potelu yn Hwlffordd.

Mae’r fframwaith yn rhoi statws cyflenwr i ddau gyflenwr Cafodd Totally Welsh statws prif gyflenwr a chafodd Raglan Dairy statws cyflenwr eilaidd. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni brynu ein cynnyrch llaeth gan Totally Welsh. Fodd bynnag, os na fedrant ateb ein gofynion contract, byddai angen i ni wedyn ddefnyddio Raglan Dairy.

Oherwydd gwerth y contract, gall unrhyw gwmni/person sy’n cyflawni meini y prawf y tendr gyflwyno tendr am y contract. Cafodd yr holl gynigion eu gwerthuso ar yr un meini prawf a’r tro hwn Totally Welsh oedd â’r sgôr uchaf ac felly nhw gafodd statws prif gyflenwr.

Gofynnwyd i bob cynigydd roi tystiolaeth o sut y byddent yn cyflenwi buddion cynaliadwyedd fel rhan o’r meini prawf dyfarnu. Gofynnodd y cwestiwn penodol sut y byddai cyflenwyr yn lleihau’r defnydd o adnoddau, allyriadau a gwastraff ar draws eu cdwyni cyflenwi a sut y byddent yn gostwng eu cyfanswm eu ôl-troed carbon yn nhermau

  • Defnydd ynni a thrafnidiaeth (yn cynnwys milltiroedd bwyd
  • Defnydd dŵr a mesurau llygredd dŵr
  • Defnydd deunyddiau craidd; a
  • Deunydd pecynnu
  • Polisi gostwng carbon
  • Gostwng gwastraff bwyd
  • Mynd i’r afael â thlodi bwyd

Cyflwynodd Raglan Dairy gynnig a rhoddwyd statws cyflenwr eilaidd iddynt. Ceisiodd Totally Welsh gytuno ar ddull gweithredu gyda Raglan Dairy. Fodd bynnag, ni ddaethpwyd i gytundeb.

Mae’r Cyngor yn parhau yn ymroddedig i weithio gyda chyflenwyr lleol ac mae wrthi’n ymchwilio ei opsiynau, gan gynnwys caffael cynnyrch llaeth annibynnol. Rydym yn ystyried y dull gweithredu hwn gan fod gofynion y Cyngor wedi newid. Fodd bynnag, mae angen i’r Cyngor sicrhau fod y dull gweithredu a ddefnyddiwn yn cydymffurfio’n gyfreithiol ac y bydd diddordeb digonol gan gyflenwyr i gyfiawnhau gwyro o’r dull cydweithredol Cymru-gyfan. Os byddwn yn mynd ar ôl yr opsiwn yma, bydd cyfnod arwain i fewn ac nid oes unrhyw warant y bydd cyflenwr lleol yn llwyddiannus. Mae dymuniad Cyngor Sir Fynwy i brynu’n lleol lle bynnag yn bosibl yn hysbys iawn.