Skip to Main Content

Mae’r swyddfa gofrestru yn y Fenni yn cadw cofnodion  dim ond ar gyfer digwyddiadau a ddigwyddodd yn Sir Fynwy.

Mae olrhain hanes y teulu yn hobi sy’n fwyfwy poblogaidd. Fodd bynnag, weithiau y gall fod yn broses gymhleth a llafurus iawn. Yma yn y swyddfa gofrestru rydym yn derbyn ymholiadau di-ri o bob rhan o’r byd. Ni allwn ddarparu atebion i bob un o’r rhain, ond dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml.

Pa wybodaeth sydd ei hangen i mi gael tystysgrif eni, priodas neu farwolaeth?

Am ymholiadau ynglŷn â hanes eich teulu, bydd angen i chi roi gwybod i ni am yr enw neu enwau ar y dystysgrif, y flwyddyn, y chwarter a’r ardal gofrestru.

Ble gallaf ddod o hyd i’r wybodaeth?

Er mwyn cael y wybodaeth hon, bydd angen i chi chwilio’r Mynegeion Cofrestru Cyffredinol (a elwir hefyd yn Fynegeion St Catherine’s House). Cedwir y mynegeion hyn mewn lleoliadau niferus gan gynnwys llyfrgelloedd, canolfannau hanes teuluol, ac archifdai ledled y DU, yn ogystal ag yn Awstralia, Canada a Seland Newydd.

 

A allaf gael gan eich swyddfa dystysgrif o enedigaeth, priodas neu farwolaeth a ddigwyddodd y tu allan i Sir Fynwy?

Yn anffodus, ni allwch. Mae cofnodion o enedigaethau, priodasau a marwolaethau yn cael eu cadw bob amser yn yr ardal lle’r digwyddant, a dim ond y swyddfa leol sy’n gallu eu cyhoeddi.

A allaf olrhain perthynas hir-goll?

Yn y swyddfa gofrestru, genedigaethau, marwolaethau a phriodasau, ynghyd â’r manylion a roddwyd ar adeg y digwyddiadau hynny, yw’r unig bethau yr ydym yn cadw cofnodion ohonynt. Nid ydym yn cadw’r cofnodion diweddaraf o ble mae rhywun yn byw. Ceisiwch gael gafael ar y gofrestr etholiadol ar gyfer yr ardal sy’n cynnwys y cyfeiriad diweddaraf sy’n hysbys. Fel arall, gall llyfrau teleffon weithiau fod yn ddefnyddiol.

A all unrhyw un ddod i mewn i’r swyddfa am dystysgrif?

Gallaf, cyn belled â bod ganddynt y wybodaeth angenrheidiol i ddod o hyd i’r cofnod. Nid oes angen i ni weld dogfen adnabod.

Copïau o dystysgrifau ar gyfer dibenion hanes teulu

Mewn achosion sy’n gofyn am chwilio estynedig, e.e. chwiliadau hanes teuluol, efallai y bydd angen i bostio tystysgrifau ymlaen atoch. Rydym wedi gweld cynnydd mawr mewn ceisiadau hanes teuluol yn dilyn rhaglenni fel – Who do you think you are?’ ac – You don’t know you’re born’.

O ganlyniad, nid ydym bob amser yn gallu darparu gwasanaeth un diwrnod ar gyfer tystysgrifau hanes teuluol. Byddwn yn derbyn ceisiadau e-bost am chwiliad yn y lle cyntaf, neu gallwn dderbyn ceisiadau dros y ffôn gyda thaliad cerdyn debyd. Codir tâl am y gwasanaeth hwn.

Am ba ddyddiadau yr ydych yn cadw cofnodion?

Dechreuodd cofrestru sifil o enedigaethau, marwolaethau a phriodasau ar 1 Gorffennaf 1837 ac mae ein cofnodion yn gyflawn o’r dyddiad hwn hyd at heddiw. Cyn y dyddiad hwn, cofnodwyd bedyddiadau, angladdau a phriodasau gan yr eglwysi lle’r digwyddant.

Ble gallaf gael cymorth wrth olrhain hanes fy nheulu?

Mae llawer o bobl sydd â diddordeb mewn hanes teuluol (neu achyddiaeth fel y’i gelwir hefyd), ac mae llawer o grwpiau a sefydliadau sy’n gallu eich helpu. Ceisiwch ymweld â’ch llyfrgell leol a chymryd golwg ar rai o’r llyfrau a ysgrifennwyd ar y pwnc. Fel arall, gallwch chwilio ar y rhyngrwyd (ond gofalwch! mae’n debyg y bydd miloedd o ganlyniadau chwilio).