Skip to Main Content

Newidiadau i wasanaethau dros yr ŵyl

Bydd yr holl gwasanaethau casglu ailgylchu a gwastraff  yn Sir Fynwy yn cael eu gwneud ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26ain Rhagfyr, tra y bydd y gwasanaethau casglu yn cael eu cynnal ar y diwrnod arferol yn ystod yr wythnos ddilynol. 

Bydd canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref y siryn Llan-ffwyst, Llanfihangel Troddi a Five Lanes, ar agos ar Noswyl Nadolig rhwng 8am a 2pm, a byddant ar gau wedi hyn tan 27ain Rhagfyr.  Byddant ar gau wedyn ar Ddydd Calan. Mae modd trefnu slot i ymweld gyda’r canolfannau ailgylchu ar wefan y Cyngor: monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/

Bydd y Siopau Ailgylchu ar gau o’r 22ain Rhagfyr, gan ail-agor yng nghanolfan ailgylchu Llan-ffwyst  ar 17eg Ionawr, a chanolfan ailgylchu  Five Lanes ar 18fed Ionawr (y ddwy ganolfan: 10am – 3pm).

Marchnad Y Fenni – Bydd adeilad y farchnad ar gau o Ddiwrnod Nadolig, gan ailagor ar ddydd Gwener, 30ain a dydd Sadwrn 31ain Rhagfyr. Bydd ar gau wedyn tan ddydd Mawrth 3ydd Ionawr.

Mae oriau agor Hybiau Cymunedol yn y Fenni, Cas-gwent,  Gilwern, Trefynwy a Brynbuga yn amrywio fel sydd yn cael ei ddangos isod.

Mae Adeilad Llyfrgell y Fenni ar agor rhwng 9am a 1pm ar Noswyl Nadolig (llyfrgell yn unig), yna ar gau tan 29ain Rhagfyr, pan fydd y llyfrgell a’r Hyb Cymunedol ar agor  9am-1pm a 2pm-5pm. Mae hefyd ar agor ar ddydd Gwener 30ain Rhagfyr 9am-1pm a 2pm-4.30pm. Mae’r llyfrgell yn unig ar agor ar Nos Galan 9am-1pm. Mae’r llyfrgell a’r Hyb Cymunedol yn ail-agor ar 3ydd Ionawr.

Mae Hyb Cymunedol Gilwern ar agor ar ddydd Gwener 23ain Rhagfyr 10am-1pm a 1.30pm-4.30pm, ac yna ar gau tan 30ain Rhagfyr pan fydd ar agor  10am-1pm a 1.30pm-4.30pm. Mae Hyb Cymunedol Gilwen ar gau wedyn tan 3ydd Ionawr.

Mae Hyb Cymunedol Cas-gwent ar agor 10am-1pm ar Noswyl Nadolig, ac yna ar gau tan ddydd Iau 29ain Rhagfyr pan fydd ar agor 9am- 1pm a 1.30pm-4.30pm.  Ar Nos Galan, bydd yn cau am 1pm, yn ail-agor am 9am ar ddydd Mawrth 3ydd Ionawr.

Mae Hyb Cymunedol Brynbuga yn cau Noswyl Nadolig am 12.45pm, gan ail-agor  ar ddydd Iau 29ain Rhagfyr am 9am. Mae ar gau drwy’r dydd ar 30ain Rhagfyr  yn agor 9am-12.45pm ar Nos Galan ac yna ar gau tan ddydd Mercher 4ydd Ionawr am 9am.

Mae Hyb Cymunedol Trefynwy ar agor Noswyl Nadolig rhwng 9am a 1pm, ond yna ar gau tan ddydd Gwener 30ain Rhagfyr  pan fydd yn ail-agor am 8.45am-1pm, a 2pm-4.30pm. Mae hefyd ar agor ar ddydd Sadwrn 31ain Rhagfyr 9am-1pm, ac yna ar gau tan 3ydd Ionawr.

Hyb Cymunedol Cil-y-Coed

Rhagfyr 23rd Dydd Gwener 09:00 – 16:00.

Rhagfyr 24th / Dydd Sadwrn 10:00 – 13:00.

Rhagfyr 25th / Dydd Sul – Closed/Ar Gau.  

Rhagfyr 26th / Dydd Llun Closed/Ar Gau.

Rhagfyr 27th / Dydd Mawrth – Closed / Ar Gau.

Rhagfyr 28th / Dydd Mercher – Closed/ Ar Gau.

Rhagfyr 29th / Dydd Iau – 09:00 – 17:00.

Rhagfyr 30th/ Dydd Gwener 09:00 –  16:00.

Rhagfyr 31st / Dydd Sadwrn 10:00 – 13:00.

Ionawr 1st/ Dydd Sul – Closed/ Ar Gau.

Ionawr 2nd / Dydd Llun Closed / Ar Gau.   Ionawr 3rd / Dydd Mawrth 09:00 – 17:00.

Mae Castell Cil-y-coed ar gau tan 1af Ebrill 2023, ond mae’r Parc Gwledig ar gael drwy’r flwyddyn. Mae’r clwydi i’r parc gwledig ond ar gau ar Ddiwrnod Nadolig  a Dydd Calan ond mae ymwelwyr dal yn medru parcio yn y maes parcio bach ger y fynedfa a defnyddio’r Parc Gwledig. Mae Hen Orsaf Tyndyrn ar gau tan 1af Ebrill 2023.

Mae’r Canolfannau Croeso a Neuadd Sir Trefynwy ar gau o 4.30pm ar ddydd Gwener 23ain Rhagfyr tan ddydd Mawrth 3ydd Ionawr.

Mae holl amgueddfeydd Sir Fynwy ar gau o ddydd Llun 19eg Rhagfyr tan ddydd Gwener 17eg Chwefror 2023.

Bydd y canolfannau hamdden yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy ar gau am 2.30pm a’n ail-agor ar ddydd Iau 29ain Rhagfyr. Ar Nos Galan, yr oriau agor yw 8.15am-2.30pm, ac yna bydd y canolfannau ar gau  tan ddydd Mawrth 3ydd Ionawr.

Bydd Canolfan Gyswllt Sir Fynwy yn cau am 4.30pm ar ddydd Gwener 23ain Rhagfyr. Bydd ar gau rhwng dydd Llun 26ain a dydd Mercher  28ain Rhagfyr, gan ail-agor am 9am ar ddydd Iau, 29ain Rhagfyr.  Bydd ar gau ar ddydd Llun 2ail Ionawr ar gyfer Gŵyl y Banc. Bydd yr ap FySirFynwy dal ar gael.