Skip to Main Content
cllrs stand by foster poster
Y Cynghorydd Angela Sandles a’r Cynghorydd Tudor Thomas tu allan i Neuadd y Sir yn Nhrefynwy.

Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy y cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau maethu yn Neuadd y Sir, Trefynwy ddydd Gwener 25ain Tachwedd i annog pobl i faethu plant a phobl ifanc lleol.

Mae llawer o opsiynau ar gael i ofalwyr maeth posibl o ofal maeth tymor byr neu hirdymor, seibiannau byr, rhiant a phlentyn, gofal therapiwtig a llety â chymorth. Mae croeso i ofalwyr maeth posibl gymhwyso beth bynnag yw eu hethnigrwydd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu crefydd, eu hoedran, neu eu statws priodasol.

Mae sesiynau galw heibio yn y dyfodol yn cael eu cynnal ar yr amseroedd canlynol:

Marchnad y Fenni 6ed Rhagfyr 10am-3pm, Waitrose Y Fenni 7fed Rhagfyr 1pm-6pm, Hyb Cil-y-coed 9fed Rhagfyr 10am – 3pm. Waitrose Trefynwy  12fed a’r 16eg Rhagfyr 1pm-5pm.

Dywedodd yr aelod o gabinet Sir Fynwy sydd â chyfrifoldeb am ei wasanaeth maethu, y Cynghorydd Tudor Thomas: “Enw tîm maethu Cyngor Sir Fynwy yw ‘Maethu Cymru Sir Fynwy’, sy’n rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol nid-er-elw ledled Cymru. Hoffwn ddiolch i bob un person sy’n ystyried gofalu am ein plant lleol er mwyn i ni allu eu cadw’n agos at eu ffrindiau, eu hysgolion a’r llefydd maen nhw’n eu hadnabod, mae hyn yn ffactor enfawr yn eu hapusrwydd yn y dyfodol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Angela Sandles, aelod y Cabinet dros ymgysylltu: “Fe wnes i fwynhau treulio amser gyda’r tîm a oedd yn sgwrsio â phobl y tu allan i Neuadd y Sir, Trefynwy ddydd Gwener. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried maethu i gysylltu – gall fod yn brofiad boddhaus iawn. Mae gennym staff anhygoel a fydd yn ateb eich holl gwestiynau ac yn eich cefnogi.”

Gallai unrhyw un sy’n ystyried maethu wneud gwahaniaeth i blant fel Tom:

Mae Tom (nid ei enw iawn) yn byw mewn cartref plant am nad oes cartref maeth ar gael iddo. Mae’n cael ei ddisgrifio fel bachgen ifanc doniol, cwrtais a charedig. Pan mae’n tyfu i fyny mae Tom eisiau bod yn ddiffoddwr tân neu’n saer coed. Mae Tom eisiau byw gyda rhywun sy’n caru anifeiliaid ac yn gwneud iddo deimlo ‘yn union fel unrhyw blentyn arall’.

Cysylltwch â’r tîm heddiw i wneud gwahaniaeth:

01291 635682
https://fosterwales.monmouthshire.gov.uk/

E-bost: foster@monmouthshire.gov.uk