Skip to Main Content

Mae Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines yn cydnabod y cyfraniad a’r gwasanaeth anhygoel gan bobl ar draws y DU. Roedd y cyhoeddiad  y mis hwn yn cadarnhau’r gydnabyddiaeth haeddiannol a roddwyd i nifer o drigolion Sir Fynwy. 

Dyfarnwyd Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) i:

Alun Griffiths o’r Fenni  am ei wasanaeth i’r diwydiant adeiladu a’r gymuned yng Nghymru. Sefydlwyd ei gwmni, sef Alun Griffiths,  yn 1968 ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, cwmnïau cyfleustodau, awdurdodau lleol a Network Rail, ymhlith nifer o sectorau  eraill

Roedd Nicholas Hamer, o Rysmwnt, hefyd wedi derbyn CBE am ei wasanaeth cyhoeddus. Mae Mr Hamer yn gyfarwyddwr ar gyfer yr ymateb coronafeirws ar gyfer yr Adran Waith a Phensiynau.    

Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE):

Roedd Robin Andrew McCleary, o Gas-gwent, wedi derbyn OBE am ei wasanaeth i amddiffyn. Mae ei fusnes yn cynnig storfa, yn dosbarthu ac yn arwain ar gyfer logisteg,  nwyddau a gwasanaethau, cyfarpar amddiffyn a’n cynorthwyo’r Weinyddiaeth Amddiffyn. 

Aelodau o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig(MBE):

Dr Nicola Joan Bradbear, o Drefynwy. Fel rhan o’i gwasanaeth at fioamrywiaeth, roedd   Nicola wedi dechrau’r ymgyrch bod yn gyfeillgar i wenyn (Bee Friendly) sydd nawr yn cael ei gofleidio ar draws Sir Fynwy. Roedd  Nicola wedi lansio Gŵyl Gwenyn Trefynwy, sydd yn flynyddol, ac wedi adeiladu proffil Trefynwy fel y Dref Wenwyn gyntaf yn y DU. Mae Nicola wedi bod yn cynnal ymchwil i wenyn a’n gwneud gweithgareddau datblygu ar draws y byd, gan gydweithio gyda’r sawl sydd yn gofalu am wenyn mewn mwy na 50 o wledydd. Mae ei mudiad nid-er-elw  (Bees for Development) wedi derbyn gwobrau sylweddol am ei waith, ac yn fwy diweddar, y dyfarniad am y mudiad Cymreig sydd yn cael yr effaith gyffredinol fwyaf yn Affrica.

Susan Doheny, o’r Fenni, sef y brif nyrs ranbarthol ar gyfer y De Orllewin, GIG Lloegr a Gwella’r GIG, a dderbyniodd MBE am ei gwasanaeth ym maes nyrsio.

Roedd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby,  ymhlith y cyntaf i ddiolch o galon iddynt a chynnig ei dymuniadau gorau: “Roeddwn wedi wrth fy modd i weld y cyfraniad a’r ymroddiad anhygoel gan y bobl yma wrth iddynt gael eu cydnabod fel rhan o Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines. Mae eu cyfraniad i Sir Fynwy yn mynd y tu hwnt i ffiniau’r sir, ac yn ymdrin gyda chymaint o feysydd pwysig fel bioamrywiaeth, gofal iechyd, twf economaidd  a nifer o feysydd eraill. Rwy’n hynod ddiolchgar iddynt am bob dim y maent yn gwneud er mwyn helpu’r sir nawr ac yn y dyfodol.”

Llun yn dangos Arweinydd y Cyngor, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby. Photo Shows Council Leader Mary Ann Brocklesby
Llun yn dangos Arweinydd y Cyngor, y Cyngh. Mary Ann Brocklesby