Skip to Main Content

Ar 5ed Mai 2022, bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn cynnal etholiadau i’r Cyngor Sir a Chynghorau Tref/Cymuned yn eu hardaloedd.

Ar gyfer Sir Fynwy, cynhelir etholiadau ledled yr ardal i ethol 46 o Gynghorwyr Sirol ac ychydig o dan 300 o gynghorwyr cymuned/tref.

Oes diddordeb gennych mewn sefyll mewn etholiad? Ewch i’n tudalen benodol ar gyfer ymgeiswyr ac asiantau etholiadol, sy’n rhoi popeth y mae angen i chi ei wybod wrth ystyried sefyll mewn etholiad.

Fel arall, mae CLlLC yn cynnal ymgyrch i gynghorwyr a gellir dod o hyd i wybodaeth yma.

Bydd dros 90 o orsafoedd pleidleisio ar agor ledled Sir Fynwy rhwng 7am a 10pm ar 5ed Mai 2022 i’ch galluogi i fwrw eich pleidlais. Er mwyn bwrw eich pleidlais rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru ar y gofrestr etholiadol.  Bydd pob etholwr sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn cael cerdyn pleidleisio erbyn diwedd mis Mawrth 2022 – bydd hyn yn dweud wrthych ba orsaf bleidleisio y mae gennych hawl iddi a sut i fwrw’ch pleidlais.  Os na fyddwch wedi derbyn eich cerdyn pleidleisio erbyn diwedd mis Mawrth, dylech gysylltu â ni ar 01633 644212 i weld a ydych wedi cofrestru i bleidleisio.

Cofrestru i Bleidleisio

Os ydych am bleidleisio yn yr etholiad hwn rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Cofrestrwch nawr os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, neu os nad ydych wedi derbyn eich cerdyn pleidleisio. Gallwch gofrestru ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio a bydd angen eich Rhif Yswiriant Gwladol a’ch dyddiad geni er mwyn cwblhau’r broses gofrestru.

Rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio ddod i law erbyn 14eg Ebrill 2022 i fod yn gymwys ar gyfer yr etholiadau hyn.

Os ydych yn troi’n 16 oed ar neu cyn 5ed Mai 2022, byddwch yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau hyn am y tro cyntaf. Nid oes angen i chi aros nes eich bod yn 16 oed i gofrestru i bleidleisio.  Cofrestrwch i bleidleisio cyn i chi droi’n 16 oed er mwyn sicrhau eich bod wedi cofrestru ac yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad.

Pleidleisio drwy’r Post neu drwy Ddirprwy

Os na fyddwch yn gallu ymweld â gorsaf bleidleisio neu os byddai’n well gennych bleidleisio drwy ddulliau eraill, yna gallwch wneud trefniadau amgen i bleidleisio drwy’r post, neu benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan yn eich gorsaf bleidleisio. Mae rhagor o wybodaeth am bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy gan gynnwys ffurflenni cais ar gael neu fel arall gallwch gysylltu â’r swyddfa etholiadau ar 01633 644212 neu e-bostiwch elections@monmouthshire.gov.uk. Gellir dychwelyd ceisiadau fel delweddau wedi’u sganio i’r cyfeiriad e-bost uchod neu drwy’r post i: Cofrestru Etholiadol, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA.

Caiff pleidleisiau post eu hanfon mewn dwy gyfran. Gall unrhyw etholwr sydd wedi’i gofrestru ar gyfer pleidlais bost erbyn 30ain Mawrth 2022 ddisgwyl cael ei bleidlais bost tua 22ain Ebrill 2022. Gall unrhyw un sy’n gwneud cais am bleidlais bost ar ôl y dyddiad hwn ddisgwyl cael ei bleidlais bost erbyn 28ain Ebrill 2022 fan bellaf. Bydd angen i chi ystyried y dyddiadau hyn wrth wneud cais am bleidlais bost i sicrhau eich bod ar gael i gwblhau a dychwelyd y bleidlais bost atom.

Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy’r post gael eu cyflwyno’n gywir erbyn 5pm ar 19eg Ebrill 2022.

Rhaid cyflwyno ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn gywir i ni erbyn 5pm ar 26ain Ebrill 2022.

Mae canllaw ar sut i gwblhau a dychwelyd eich pleidlais bost wedi’i gynnwys yn eich pleidlais bost.

Os na fyddwch yn derbyn eich pleidlais bost yn ôl y disgwyl, ni ellir rhoi un arall tan 29ain Ebrill 2022. Byddem yn argymell eich bod yn ymweld â Neuadd y Sir, Brynbuga, gan ddod ag hunaniaeth ffotograffig gyda chi, er mwyn cael pleidlais drwy’r post yn hytrach na dibynnu ar un arall i gael ei phostio atoch o gofio pa mor agos at y diwrnod pleidleisio ydyw.

Er bod gennych hawl i gyflwyno eich pleidlais bost i unrhyw orsaf bleidleisio yn Etholaeth Sir Fynwy ar y diwrnod pleidleisio, byddem yn eich annog i ddychwelyd y bleidlais bost atom yn y post cyn gynted â phosibl. Bydd y trefniadau mewn gorsafoedd pleidleisio yn wahanol oherwydd y pandemig a gallant arwain at giwiau yn y gorsafoedd pleidleisio.

Pleidleiswyr 16 ac 17 oed

Yr etholiadau hyn fydd y tro cyntaf gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio mewn etholiadau lleol yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021 lle gallent bleidleisio am y tro cyntaf.

Mae gwybodaeth am y broses bleidleisio, manylion am bwy yr ydych yn pleidleisio drostynt a’r hyn y maent yn ei wneud, yn ogystal â gwybodaeth am ymgyrchu pleidiau gwleidyddol ar gael yma.

Mae fideo byr ar sut rydych chi’n bwrw’ch pleidlais yn yr orsaf bleidleisio isod.

Am beth a phwy ydw i’n pleidleisio drostynt?

Bydd sawl etholiadau sy’n digwydd yn dibynnu ar ble’r ydych yn byw yn Sir Fynwy. Efallai nad oes digon o ymgeiswyr yn cyflwyno eu henw ar gyfer y cyngor cymuned a dim ond etholiad ydyw i’r Cyngor Sir.  Mewn ardaloedd eraill, gallai’r ddau etholiad gael eu cynnal.  Byddwch yn gwybod hyn naill ai drwy wirio’r hysbysiadau isod neu pan fyddwch yn derbyn eich papurau pleidleisio i bleidleisio.

Bydd angen i ymgeiswyr sy’n dymuno sefyll mewn etholiad gyflwyno papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau erbyn 4pm fan bellaf ar 5ed Ebrill 2022. Dim ond ar y pwynt hwnnw y bydd manylion yr ymgeiswyr yn hysbys ac ar gael i’r cyhoedd.

Byddwn yn cyhoeddi manylion yr ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiad ar 6ed Ebrill 2022.

Sut ydw i’n gwybod canlyniad yr etholiad?

Bydd y pleidleisio yn yr etholiad hwn yn cael ei gynnal ar 5ed Mai 2022 ond bydd y pleidleisiau’n cael eu cyfrif tan y diwrnod canlynol. Drwy gydol prynhawn a nos 6ed Mai 2022 bydd canlyniadau’r etholiad ar gael ar wefan y Cyngor i chi weld y canlyniadau a phwy yw eich cynghorwyr newydd.