Skip to Main Content

Ar draws Sir Fynwy, Cymru a’r DU, rydyn ni i gyd yn gwybod bod pobl yn mynd yn fwyfwy rhwystredig am dyllau yn y ffordd, ac rydyn ni yn y Cyngor yn rhannu’r rhwystredigaeth honno.

Mae ein timau’n gweithio ar draws y sir i sicrhau ein bod yn gwella cyflwr ein ffyrdd, ond nid tasg fechan mohoni.

Yn dilyn ymgynghoriadau ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27, a gynhaliwyd rhwng 22 Ionawr a 18 Chwefror, 2026, dyrannwyd £2 miliwn ychwanegol mewn cyllid cyfalaf ar gyfer priffyrdd, yn ychwanegol at y £5.5 miliwn a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cael ei fuddsoddi dros dair blynedd i wella cyflwr rhwydwaith ffyrdd y sir. Bydd yn cefnogi ymdrechion hirdymor, wedi’u targedu, i fynd i’r afael â thyllau yn y ffordd ochr yn ochr â phrosiectau priffyrdd amrywiol.

Isod, rydyn ni wedi casglu gwybodaeth at ei gilydd sy’n esbonio beth yw twll yn y ffordd, pam mae’n digwydd, a beth rydyn ni’n ei wneud i wella’r ffyrdd.

Mae twll yn y ffordd yn dwll yn arwyneb y ffordd. Mae’n cael ei gategoreiddio fel twll yn y ffordd neu, yn Saesneg, ‘pothole’, pan fydd yn ddyfnach na 40mm ac o leiaf 300mm o led.

Fel arfer, mae tyllau yn y ffordd yn ymddangos yn ystod misoedd y gaeaf, yn aml oherwydd eira, rhew, a chyfnodau hir o law. Maen nhw’n digwydd pan fydd dŵr yn mynd i mewn i graciau yn y ffordd ac arwyneb y ffordd yn chwalu ac yn dod i ffwrdd, gan adael twll.

Mae tyllau yn y ffordd yn cael eu creu gan ddŵr, tywydd a thraffig.

Pan fydd dŵr yn mynd i mewn i graciau bach yn arwyneb y ffordd, mae’n gwanhau’r haenau oddi tani. Yn ystod tywydd oerach, gall y dŵr hwnnw rewi ac ehangu, gan dorri’r arwyneb. Pan fydd yn dadlaith, mae’r ffordd yn dod yn wannach ac yn fwy tebygol o chwalu o dan bwysau cerbydau sy’n pasio.

Mae’r broses hon, a elwir yn aml yn rhewi-dadlaith, yn gwaethygu pan fydd:

  • Glaw trwm a stormydd
  • Tymheredd y gaeaf
  • Lefelau traffig uchel, yn enwedig ar ffyrdd prysur
  • Arwynebau ffyrdd yn hŷn ac wedi’u treulio yn barod

Gydag amser, mae’r ffactorau hyn yn cyfuno ac mae tyllau yn y ffordd yn ymddangos.

Monmouthshire County CMae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal archwiliadau ffyrdd ar draws y sir i ddod o hyd i broblemau posibl. Yn ogystal, rydyn ni’n dod i wybod am lawer o dyllau yn y ffordd trwy adroddiadau gan drigolion, cynghorwyr a defnyddwyr y ffyrdd.

Unwaith y byddwn ni’n gwybod am dwll yn y ffordd, bydd ein swyddogion yn ei asesu gan ddefnyddio asesiad sy’n seiliedig ar risg. Mae hyn yn caniatáu i’n swyddogion priffyrdd flaenoriaethu ar sail y canlynol:

  • Risg i ddefnyddwyr y ffordd
  • Maint y twll a’i ddyfnder
  • Math o ffordd a lefelau traffig
  • Effaith ar feicwyr a cherddwyr
  • Lleoliad, er enghraifft cyffyrdd neu droeon

Mae’r tyllau mwyaf peryglus yn cael eu trwsio yn gyntaf, er mwyn cadw pobl yn ddiogel.

Gan ddibynnu ar y risg a’r cyflwr, gall atgyweiriadau fod yn:

  • Atgyweiriadau brys – wedi’u gwneud yn ddiogel o fewn 24 awr
  • Atgyweiriadau â blaenoriaeth uchel – wedi’u trwsio o fewn 7 i 10 diwrnod
  • Atgyweiriadau arferol – anelu at eu trwsio o fewn 28 diwrnod

Gall amodau’r tywydd, rheoli traffig a’r angen am offer arbenigol i gyd effeithio ar yr amser y mae’n ei gymryd i drwsio’r twll.

Rydyn ni’n blaenoriaethu’r diffygion sydd â’r risg uchaf. Mae’r ffactorau’n cynnwys:

  • Perygl i ddiogelwch defnyddwyr y ffordd
  • Pa mor drwm yw’r traffig
  • Effaith ar feicwyr a cherddwyr
  • Amodau’r tywydd
  • A yw’r diffyg yn dirywio’n gyflym

Rydyn ni’n deall y gall pobl fod yn rhwystredig pan nad yw twll yn y ffordd yn cael ei drwsio ar unwaith. Mae sawl rheswm pam y gall hyn ddigwydd.

Diogelwch sy’n dod yn gyntaf – mae’r rhai sydd â’r risg uchaf i ddefnyddwyr y ffordd yn cael eu trwsio yn gyntaf. Efallai y bydd trefniadau i drwsio tyllau sy’n llai neu sydd â llai o risg yn cael eu cynnwys yn rhan o waith sydd wedi’i gynllunio yn hytrach na gweithredu ar frys. Efallai na fydd diffygion mân iawn yn cyrraedd ein lefelau ymyrraeth ac ni fyddant yn cael sylw ar yr adeg honno.

Mae amodau’r tywydd yn bwysig – mae llawer o’r gwaith trwsio yn gofyn am amodau sych er mwyn iddo fod yn effeithiol a phara’n hir. Yn ystod cyfnodau o law trwm, rhew, neu dywydd oer, efallai y bydd oedi cyn trwsio tyllau er mwyn sicrhau na fydd y gwaith yn methu yn fuan ar ôl ei wneud. Weithiau, gall twll yn y ffordd gael ei drwsio dros dro er diogelwch, hyd yn oed os nad yw amodau’r tywydd yn addas. Bydd hyn yn digwydd gan wybod y bydd gofyn ail-wneud y gwaith hwn.

Efallai y bydd angen rheoli traffig – mae angen goleuadau traffig, cau lonydd neu ddargyfeirio traffig ar rai ffyrdd, er mwyn sicrhau bod modd gwneud y gwaith trwsio’n ddiogel. Gall y cynllunio ychwanegol hwn effeithio ar ba mor gyflym y gall y gwaith gael ei wneud, yn enwedig ar ffyrdd prysur neu gul.

Trwsio dros dro neu drwsio’n barhaol – ar adegau, gall twll yn y ffordd gael ei drwsio dros dro i’w wneud yn ddiogel, a bydd gwaith wedi’i gynllunio i osod arwyneb newydd yn nes ymlaen pan fydd yr amodau a’r adnoddau’n caniatáu. Mae’r ffordd hon o weithio yn helpu i gadw ffyrdd yn ddiogel tra bod atebion tymor hirach yn cael eu rhoi ar waith.

Rydyn ni’n cydnabod bod ein trigolion eisiau gweld gwelliannau i’n ffyrdd ac eisiau i ni ymateb yn gyflymach i adroddiadau am unrhyw ddiffygion.

Er mwyn rhoi sylw i’r pryderon hyn, rydyn ni’n ymchwilio ac yn datblygu:

  • Deunyddiau trwsio sy’n para’n hirach
  • Archwiliadau mwy rhagweithiol
  • Mwy o glytio gyda pheiriant
  • Offerynnau adrodd cyhoeddus gwell

Y ffordd gyflymaf o gael rhywun i archwilio twll yn y ffordd yw ei riportio ar-lein gan ddefnyddio gwasanaeth adrodd swyddogol Cyngor Sir Fynwy.

Gallwch wneud hyn trwy gofrestru i gael cyfrif neu drwy riportio fel gwestai. (Cofiwch, os ydych chi’n riportio fel gwestai, fyddwch chi ddim yn gallu tracio eich adroddiad yn eich cyfrif.)

Gallwch hefyd riportio trwy ap Fy Sir Fynwy / My Monmouthshire.

Os yw’n argyfwng, ffoniwch 01633 644644.

Mae ein Canolfan Gyswllt hefyd ar gael i helpu trigolion i riportio tyllau yn y ffordd a gallwch hefyd ymweld ag un o’n Hybiau Cymunedol.