Skip to Main Content

Mae’r Ganolfan Un Blaned yn ganolfan addysg yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Llan-ffwyst, ar gyrion y Fenni.

Gall y Ganolfan Un Blaned ddarparu ar gyfer grwpiau bach o tua 30 o blant neu oedolion ar ymweliadau a drefnir ymlaen llaw. Cysylltwch â’r tîm ailgylchu ar mailto:recycling@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644126.

Mae’r ymweliad yn cyfuno taith dywys o’r safle â sesiwn ryngweithiol y tu mewn i’r ganolfan.

Yr hyn a ddywedodd ymwelwyr:

Mrs O Donghue – Ysgol Gynradd Cantref

“Cyflwyniad gwych i ragor o bynciau sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy. Cyfle gwirioneddol i blant aros a meddwl.”

Mrs Picton Evans – Ysgol Gynradd Kymin View

Ymweliad hynod o ddiddorol a llawn gwybodaeth. Cafodd y plant fwynhad pur o edrych ar yr arddangosion a chael trafod gyda’r staff.”