Skip to Main Content

Amser Parti!

Meddwl am barti pen-blwydd i’ch plentyn? Lle i’w gynnal, adloniant, arlwyo, y llanast, mae’r rhestr yn mynd ymlaen! Cewch wared ar yr holl drafferth – dewiswch un o’n pecynnau parti gwych a’i wneud yn barti pen-blwydd na fydd eich plentyn byth yn anghofio!

Mae gennym lawer o opsiynau i ddewis ohonynt, ac mae pob parti yn para am ddwy awr: yr awr gyntaf i chwarae a chael hwyl, a’r ail awr i gael bwyd.

Sblash-tastig

Nid oes rhaid i chi wario llawer i gael amser gwych – cewch ddewis o un o’n Partïon Pwll gwych, sy’n cynnwys opsiwn o gael chwyddadwy pwll ENFAWR a llithren i blant, jetiau dŵr a cherddwyr dŵr, parti Splash Sport, neu, ar gyfer ein nofwyr iau, detholiad o beli, fflotiau, teganau a theganau gwynt bach.

Dwlu ar sboncio

Ni fydd traed eich plentyn yn cyffwrdd â’r llawr! Mae yna opsiwn i gael castell sboncio a chwarae meddal, sydd yn llawer o hwyl i blant iau, a phecyn arall sy’n cynnwys castell sboncio a chwaraeon.

Chwaraeon uwch

I sêr chwaraeon addawol y dyfodol! Cewch ddewis o ystod eang o chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed pump bob ochr, pêl-fasged, unihoc, criced kwik, pêl-rwyd, chwaraeon raced, sglefrolio*, gemau traddodiadol trefnedig – mae’r rhestr yn mynd ymlaen!

Dwlu ar ddawnsio

Ar gael yng Nghas-gwent yn unig.