“Sir yn ne-ddwyrain Cymru yw Sir Fynwy (Saesneg: Monmouthshire) a grewyd wrth ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996. Roedd yr hen Sir Fynwy yn un o’r tair sir ar ddeg yng Nghymru a ddilëwyd gan adrefnu llywodraeth leol yn 1974. Rhwng 1974 a 1996 bu’r ardal yn rhan o sir Gwent. Trefynwy, ar Afon Mynwy, yw prif dref a chanolfan weinyddol y sir. Mae’r sir yn cynrychioli pen deheuol Cymru yn yr hen ddywediad ‘O Fôn i Fynwy’ (h.y. ‘Cymru benbaladr’).” (Dyfyniad o dudalen Wicipedia am Sir Fynwy.)
Mae gan y sir boblogaeth o tua 91,300.
Sir Fynwy yw prifddinas bwyd Cymru. Mae gennym y cynhyrchwyr bwyd, bwytai a chaffis mwyaf anhygoel ac angerddol, ac wrth gwrs y mae’r Fenni yn cynnal y Glastonbury i fwydgarwyr, Gŵyl Bwyd y Fenni.
Mae gennym dreftadaeth gyfoethog gyda nifer o amgueddfeydd a chestyll gwych, yn ogystal ag amrywiaeth eang o safleoedd cefn gwlad deniadol. Gallwch weld pethau i’w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw yn Sir Fynwy ar y wefan hon, a gallwch hefyd edrych ar ein calendr o ddigwyddiadau.