Skip to Main Content

Yn dilyn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ddydd Iau 22 Gorffennaf, mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau y cytunwyd ar y cynnig i ailwampio Canolfan Hamdden y Fenni. Mae MonLife heddiw (dydd Gwener 23 Gorffennaf) wedi lansio eu microsafle newydd https://monlifeleisuredevelopment.co.uk/cy/home-cymraeg/ i alluogi preswylwyr i weld y cynlluniau llawn ar gyfer y datblygiad a chael mwy o wybodaeth.

Mae MonLife Cyngor Sir Fynwy yn ymroddedig i fuddsoddi mewn prosiectau o fudd i iechyd a llesiant cymuned y sir. Mae ei ganolfannau hamdden yn hwb mawr wrth gefnogi llesiant corfforol ac emosiynol ar draws pob demograffig oedran.

Bydd y gwaith ailwampio sydd ar y gweill ar gyer Canolfan Hamdden y Fenni yn creu hyb llesiant ar adeilad cyntaf yr adeilad er mwyn creu cyfleusterau hamdden modern ar gyfer y gymuned leol a helpu i gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol rheolaidd.

Bydd y cyfleusterau newydd a gynigir yn cynnwys:

  • Ystafell ffitrwydd estynedig
  • Stiwdio ymarfer gydag offer pŵer
  • Stiwdio troelli
  • Cyfleusterau newid newydd ffitrwydd
  • Cyfarpar gwerthu coffi ar y llawr daear

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Llesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Gyngor Sir Fynwy: “Rydym yn ymroddedig i fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden a’u datblygu ar draws ein sir i gefnogi iechyd a llesiant ein dinasyddion. Bydd y buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau hamdden yn cael effaith sylweddol ar lesiant yn awr, a hefyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Byddwn yn annog preswylwyr lleol i edrych ar y cynlluniau a chanfod mwy am y prosiect cyffrous yma.”