Skip to Main Content

Trwydded maes carafannau a gwersylla

 

Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o drwyddedau safle a ddyroddwyd yn eu hardal.

Mae’r canlynol yn rhestr o’r safleoedd trwyddedig yn Sir Fynwy (nid yw’r gofrestr hon yn cynnwys trwyddedau a roddwyd i garafannau preswyl sengl a ddefnyddir fel anheddau preifat):

Carafannau teithiol:

  • Maes Carafannau Church Cottage, Llanwytherin, Y Fenni, NP7 8RG
  • Maes Carafannau Pont Kemys, Pont Kemys Farm, Chainbridge, Brynbuga, NP15 9DS
  • The Chainbridge, Cemais Comawndwr, Brynbuga, NP15 1PP
  • Maes Carafannau Wernddu, Wernddu Farm, Y Fenni, NP7 8NG
  • Maes Carafannau Pyscodlyn, Pyscodlyn Farm, Llanwenarth, Y Fenni, NP7 7ER
  • Maes Carafannau St Pierre, Ifton Hill, Porthysgewin, NP16 4TT
  • Maes Carafannau Pen-y-Dre, Pen-y-Dre Farm, Llanfihangel Crucornau, Y Fenni, NP7 8DH
  • Maes Carafannau Trefynwy, Rockfield Road, Trefynwy, NP25 3BA
  • Parc Carafannau a Gwersylla Glentrothy, Llanfihangel Troddi, Trefynwy, NP25 4BD
  • Maes Carafannau a Gwersylla Bridge, Llanddingad, Trefynwy, NP25 4DY
  • Maes Carafannau Tump Farm, Gwenffrwd, Trefynwy, NP25 4TT

Carafannau sefydlog:

  • Clwb Gwersylla Western Sunfolk, The Brakes, Croes Roberts Farm, Tryleg, Trefynwy
  • Park Pen-y-Van, Narth, Trefynwy
  • Kings Orchard, Withy Lane, Trefynwy, NP25 5LF
  • The Caravan Site, Court Farm, Llandeilo Gresynni, ger Y Fenni, NP7 8SU
  • Maes Carafannau Pont Mynwy, Drybridge Street, Trefynwy, NP25 5AD

Carafannau preswyl:

  • Parc Carafannau Riverside, Old Hadnock Road, Trefynwy, NP25 3LT
  • Mr L Pritchard, The Beeches, Gwndy, ger Cil-y-coed
  • The Halfway House, Talycoed, ger Y Fenni, NP7 8TL (safle bach, preifat)

 

Crynodeb o’r drwydded

Cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi sicrhau bod gan eich safle ganiatâd cynllunio. Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol i weithredu maes carafannau a gwersylla. Gellir rhoi amodau ar y drwydded sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r canlynol:

  • cyfyngu pryd y gall carafannau fod ar y safle i bobl breswylio ynddyn nhw neu gyfyngu ar nifer y carafannau a all fod ar y safle ar unrhyw adeg
  • rheoli’r mathau o garafannau ar y safle
  • rheoli lle y lleolir y carafannau neu reoli’r defnydd o strwythurau a cherbydau eraill, gan gynnwys pebyll
  • sicrhau cyflwyno camau i wella golwg y tir, gan gynnwys plannu/ailblannu coed a llwyni
  • mesurau diogelwch tân ac ymladd tân
  • sicrhau bod cyfleusterau toiledau a chyfleusterau, gwasanaethau ac offer eraill yn cael eu darparu a’u cynnal a’u cadw

Meini prawf cymhwysedd

Rhaid i’r ymgeisydd fod â’r hawl i ddefnyddio’r tir fel maes carafannau. Ni roddir trwydded i ymgeiswyr y cafodd trwydded safle ei thynnu oddi arnynt o fewn tair blynedd i’r cais cyfredol.

Crynodeb o’r rheoliadau

Crynodeb o’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y drwydded hon

Proses gwerthuso cais

Cyflwynir cais am drwydded safle i’r awdurdod lleol lle mae’r tir. Rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig, a dylent nodi’r darn tir y mae’r cais yn berthnasol iddo ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol.

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Bydd. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.

Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais i weithredu maes carafannau neu faes pebyll

Camau unioni pan fydd cais yn methu

Fe’ch cynghorir i drafod unrhyw broblem â’r awdurdod lleol yn gyntaf. Os gwrthodir cais deiliad trwydded i newid amod, gall gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o dderbyn hysbysiad ysgrifenedig o wrthod y cais, a rhaid cyflwyno hysbysiad o’r apêl i’r cyngor dosbarth lleol.

Camau unioni ar gyfer deiliaid trwydded

Fe’ch cynghori i drafod unrhyw broblem â’r awdurdod lleol yn gyntaf. Os yw deiliad trwydded yn dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm â thrwydded, gall gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol neu, yn yr Alban, y Siryf. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o gyflwyno’r drwydded. Gall y cyngor dosbarth lleol addasu’r amodau ar unrhyw adeg, ond rhaid iddynt roi cyfle i ddeiliad y drwydded gyflwyno sylwadau am y newidiadau arfaethedig. Os yw deiliad trwydded yn anghytuno â’r newidiadau, gall gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o dderbyn hysbysiad ysgrifenedig am y newid, a rhaid cyflwyno hysbysiad o’r apêl i’r cyngor dosbarth lleol.

Cwynion gan ddefnyddwyr

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â’r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf – ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf anfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyswllt Defnyddwyr roi cyngor i chi. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

Camau unioni eraill

E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, os bydd deiliad trwydded yn cwyno am un arall.

Cymdeithasau masnach

Cymdeithas Sefydliadau Carafannau a Gwersylla Eithriedig (ACCEO)
Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartref Prydain (BH&HPA)
Cymdeithas Cyrchfannau Prydain
Hyfforddiant y Diwydiant Carafannau (CITO)
Ffederasiwn y Trefnwyr Teithiau (FTO)
Cymdeithas Trefnwyr Teithiau Grŵp (GTOA)
Cymdeithas Marchnata Gwestai
Y Cyngor Carafanio Cenedlaethol (NCC)