Skip to Main Content

Wrth i breswylwyr ddihuno fore dydd Sul i eira sylweddol cyntaf Sir Fynwy yn 2021, aeth gweithwyr y cyngor ar ddyletswydd i gadw ffyrdd yn agored, darparu gwasanaethau mor debyg i arfer ag oedd modd a sicrhau fod pobl yn aros yn ddiogel. Ychydig o ymyrraeth a achosodd yr eira a syrthiodd ar draws y sir fore 24 Ionawr gan i dimau’r cyngor drin y problemau’n effeithiol ac effeithlon.

Roedd timau graeanu yn brysur tu hwnt a buont yn gweithio bron yn ddi-dor gyda thymheredd ffyrdd yn is na sero am lawer o’r penwythnos. Cafodd yr holl ffyrdd a drefnwyd eu trin yn ogystal â chanol trefi i sicrhau fod traffig yn llifo, a graeanu neu glirio eira o nifer o safleoedd ysgol. Bydd graeanu yn parhau gyda disgwyl peth eira a glaw’n rhewi cyn i dywydd mwy cynnes a gwlyb gyrraedd ddydd Mawrth – er y disgwylir cyfnod arall oer iawn dros y penwythnos. Pwysleisiodd swyddogion priffyrdd y dylai preswylwyr fod yn ofalus wrth yrru, yn arbennig gan fod llifogydd diweddar a glaw trwm wedi achosi i ddŵr redeg oddi ar gaeau i’r rhwydwaith ffyrdd.

Roedd  iâ fore dydd Llun yn achosi her i dimau ailgylchu a gwastraff y cyngor mewn rhai ardaloedd er eu bod yn anelu casglu o bob cartref. Yn y cyfamser, bu Prydau Bwyd Sir Fynwy yn dosbarthu bwyd twym fel arfer dros y penwythnos gyda help cerbyd addas ar gyfer pob math o dir ar gyfer ardaloedd anodd eu cyrraedd. Yn yr un modd, cafodd yr holl ofal a chymorth ar gyfer yr henoed a’i bregus ei gyflenwi, gan ddefnyddio cerbydau 4×4 lle roedd angen.

Arhosodd tair canolfan gwastraff ac ailgylchu cartrefi Sir Fynwy yng Nghaerwent, Llanfihangel Troddi a Llan-ffwyst ar agor fel arfer ar y dydd Sul ac roeddent ar gael ar gyfer preswylwyr oedd wedi trefnu ymlaen llaw. Fodd bynnag, cynghorwyd pobl a gysylltodd â’r safleoedd cyn teithio i aros gartref a chadw’n ddiogel yn hytrach na mynd ar y ffyrdd.

Dywedodd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y modd dibynadwy a phroffesiynol y gwnaeth timau’r cyngor weithredu dros y Sul, yn arbennig yn dilyn eu hymateb ardderchog i’r glaw trwm a ddaeth Storm Christoph.”

Caiff preswylwyr eu cynghori i gadw’n ddiogel mewn eira a iâ a dim ond gyrru os yw’n hanfodol. Mewn tywydd gwael mae sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter y cyngor yn rhoi gwybodaeth ar sefyllfa ffyrdd a’r tywydd.