Skip to Main Content

Ers 1 Ebrill 2014 nid yw Cyngor Sir Fynwy wedi darparu gwasanaeth rheoli pla i breswylwyr ar gyfer trin llygod mawr, llygod, chwain neu bycs. Nid oes dyletswydd gyfreithiol i awdurdod cyhoeddus ddarparu gwasanaeth o’r fath ac yn yr un modd â llawer o awdurdodau lleol eraill, mae Sir Fynwy wedi wynebu dewisiadau anodd am ba wasanaethau i’w hariannu.

Dan ddarpariaethau Deddf Atal Difrod gan Bla 1949 mae perchnogion/meddianwyr yn gyfrifol am gadw eu tir eu hunain yn rhydd rhag llygod mawr/llygod.

Os oes gennych broblem fe’ch cynghorwn yn gryf i gael gwasanaeth cwmni rheoli pla bona fide yn hytrach na cheisio trin y broblem yn uniongyrchol eich hunan.

Nid yw Adran Iechyd yr Amgylchedd yn comisiynu triniaethau ar gyfer pla llygod mawr ond byddwn yn cynnig cyngor i breswylwyr a busnesau os ydynt angen hynny a’i gwneud yn ofynnol i gymryd camau i ddinistrio llygod mawr ar dir preifat os na chymerir camau o’r fath.