Skip to Main Content

Gall llosgi gwastraff gardd fod yn annymunol ac achosi risg i iechyd. Gall mŵg gynnwys carbon monocsid yn ogystal ag elfennau eraill niweidiol, llidiog a carsinogenig.  Gofynnir i chi ystyried yn ofalus cyn cynnau tân yn eich gardd.

Cyngor cyn cael coelcerth

  • Dywedwch wrth eich cymydog. Nid oes cyfyngiadau amser yn y gyfraith yn dweud pryd y gallwch gynnau tân yn yr ardd ond dylech ystyried pryd fyddai’n achosi lleiaf o anghyfleustra i’ch cymdogion.
  • Peidiwch byth â llosgi rwber, deunydd synthetig neu gemegau eraill gan y gallant gynnwys tarthau gwenwynig a niweidiol.
  • Rhowch y goelcerth mewn man gofalus, gan sicrhau ei fod mor bell ag sydd modd o unrhyw ffensys neu adeiladau, ac na fydd cyfeiriad y gwynt yn chwythu mwg i safleoedd cyfagos.
  • Peidiwch byth gynnau coelcerth pan mae gan gymdogion ddillad yn sychu yn yr ardd.
  • Sicrhau bod rhywun yn goruchwylio’r goelcerth bob amser ac y caiff ei ddiffodd yn iawn.
  • Peidiwch caniatáu i fwg chwythu i’r ffordd – mae hyn yn drosedd dan y Ddeddf Priffyrdd.
  • Peidiwch cynnau tân os yw ansawdd yr aer yn eich ardal yn wael.

Ffyrdd eraill o gael gwared â gwastraff:

  • Bydd y criw sbwriel yn casglu’r rhan fwyaf o wastraff domestig.
  • Byddwn yn casglu eitemau mawr am ffi fechan.
  • Gellir compostio toriadau gardd.
  • Gellir mynd â sbwriel domestig neu wastraff gardd i un o Safleoedd Amwynder Dinesig Sir Fynwy.
  • Gellir ailgylchu amrywiaeth eang o ddeunyddiau.

Sut i gwyno am niwsans mwg

Os ydych yn cael problem gyda niwsans mŵg, ceisiwch siarad gyda’ch cymdogion yn gyntaf a ddweud wrthynt yn gwrtais sut mae’r goelcerth (neu ffynhonnell arall megis llosgwr coed) yn effeithio arnoch. Wrth gwrs os na theimlwch y gallwch wneud hyn neu os ydych yn siarad gyda nhw ond fod y broblem yn parhau, hysbyswch ni am y broblem.

Bydd Iechyd yr Amgylchedd yn ymchwilio cwynion o niwsans sŵn. Nid oes diffiniad penodol am yr hyn sy’n niwsans sŵn ond yn amlwg mae maint, hyd ac amlder y mwg yn ffactorau hanfodol i’w hystyried. Lle cadarnheir fod niwsans mwg, cyflwynir hysbysiad ffurfiol i’r person a ddelir yn gyfrifol yn ei gwneud yn ofynnol i atal a/neu wahardd rhag digwydd eto.

Os ydych yn gwneud cwyn am niwsans mwg gofynnir i chi gadw dyddiadur o ddyddiadau/amserau’r niwsans drwy gydol cyfnod yr ymchwiliad. Dim ond os ystyriwn fod digon o dystiolaeth y byddwn yn cyflwyno hysbysiadau atal. Gellir apelio hysbysiadau  o fewn 21 diwrnod i’r llys ynadon.

Gallwch gymryd camau cyfreithiol hebddom ni dan adran 82 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Bydd yn rhaid i chi brofi’ch achos yn y llys ac felly byddai’n ddoeth i chi gael cyfreithiwr i weithio drosoch.

Yn groes i’r gred boblogaidd, nid oes Parthau Di-fwg yn Sir Fynwy.

Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol, ond wrth gofrestru eich manylion fe allwch olrhain cynnydd yr hyn yr ydych wedi ei adrodd, a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater wrth iddo gael ei brosesu.

Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau Apple, Android a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.