Mae Sir Fynwy yn dathlu dau lwyddiant wrth i Drefynwy a Brynbuga gael eu cydnabod yn genedlaethol fel lleoedd rhagorol i fyw. Mae hyn yn tynnu sylw at y cyfuniad unigryw o gymunedau cryf a thirweddau hardd sydd gan y sir i’w cynnig.
Cafodd Trefynwy ei henwi fel y lle Hapusaf i Fyw yng Nghymru, ar bedwerydd ym Mhrydain Fawr yn gyffredinol yn ôl Mynegai Happy at Home 2026, Rightmove. Canmolodd trigolion “awyrgylch cyfeillgar” y dref, “y ffaith eu bod yn gallu cysylltu â natur a mannau gwyrdd”, a’i “gwasanaethau lleol rhagorol”.
Yn gynharach eleni, cafodd Brynbuga ei enwi fel y Lle Gorau i Fyw yng Nghymru 2026 gan y Sunday Times, pan aeth y beirniaid ati i dynnu sylw at ei ysbryd cymunedol bywiog, ei fusnesau annibynnol, ei hanes cyfoethog a’i grwpiau lleol gweithgar.
Gyda’i gilydd, mae’r ddau anrhydedd yn dangos y rhinweddau sy’n gwneud Sir Fynwy yn lle mor arbennig i’w galw’n gartref, o’i threfi a’i phentrefi marchnad i’w chymunedau croesawgar a’i hamgylchedd naturiol syfrdanol.
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy:”Rydym yn hynod falch o weld Trefynwy a Brynbuga yn cael eu cydnabod ar lwyfan cenedlaethol. Er bod ein tirweddau hardd, ein trefi hanesyddol a bywiog yn chwarae rhan bwysig, ac yn gwneud Sir Fynwy yn lle mor ddeniadol i fyw, ein pobl sy’n gwneud y gwahaniaeth mewn gwirionedd. Mae trigolion ar draws y sir yn rhoi o’u hamser a’u hegni ac maent yn angerddol am gefnogi grwpiau lleol, trefnu digwyddiadau, gofalu am fannau cyhoeddus ac am ei gilydd.”
Mae’r fath gydnabyddiaeth yn ychwanegu at enw da Sir Fynwy, fel un o’r leoedd mwyaf dymunol yng Nghymru i fyw, ymweld â hi a chynnal busnes. Mae’r ddwy wobr yn tynnu sylw at bwysigrwydd ysbryd cymunedol, mynediad at natur ac ansawdd bywyd uchel.

