
Trafodwyd prosiect arfaethedig i drawsnewid gorsaf reilffordd Cyffordd Twnnel Hafren yn ganolfan drafnidiaeth ranbarthol bwysig yn ystod ymweliad gan Ddirprwy Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Mark Hooper AS, ddydd Iau 8 Hydref.
Trafododd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Fynwy, gan gynnwys Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mary Ann Brocklesby, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cyng. Paul Griffiths, a’r Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd sut y gallai buddsoddi mewn mynediad i’r ffyrdd ddatgloi manteision economaidd, trafnidiaeth ac amgylcheddol sylweddol i’r ardal leol ac ehangach.
Yn ganolog i’r cynnig mae cyffordd a ffordd fynediad newydd ar y M48 a fydd yn cysylltu’n uniongyrchol â gorsaf Cyffordd Twnnel Hafren. Nod y cynllun yw ei gwneud hi’n haws i fodurwyr gael mynediad i’r rhwydwaith rheilffyrdd, gan annog newid o heolydd i’r rheilffordd a lleihau’r pwysau ar goridor y M4.
Byddai’r cynnig yn cefnogi uchelgeisiau ehangach ar gyfer Metro De-ddwyrain Cymru llwyr integredig.
Byddai cysylltiad uniongyrchol rhwng y draffordd a’r orsaf hefyd yn gwneud gwell defnydd o’r cyfleusterau presennol a gallai alluogi Cyffordd Twnnel Hafren i ddatblygu i fod yn orsaf strategol Severnside Parkway, gan wasanaethu dalgylch llawer mwy a chefnogi twf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth.
Dywedodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rydym yn gwerthfawrogi ymweliad heddiw gan y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth. Mae gan y cynnig a drafodwyd y potensial i fod yn drawsnewidiol, nid yn unig i Sir Fynwy ond i’r rhanbarth ehangach. Trwy wella mynediad i’r rhwydwaith rheilffyrdd, gallwn greu cysylltiadau gwell i drigolion, cefnogi twf economaidd a’i gwneud hi’n haws i bobl ddewis trafnidiaeth gyhoeddus.
“Byddai canolfan reilffordd fawr yng Nghyffordd Twnnel Hafren yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng De Cymru a Gorllewin Lloegr tra’n helpu i leihau tagfeydd ar ein heolydd, a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar y rheiny sy’n byw ac yn gweithio yn y sir.”
“Byddai’r llwybr mynediad arfaethedig yn annog mwy o bobl i symud o deithio ar y ffordd i’r rheilffordd trwy greu Severnside Parkway. Byddai hefyd yn caniatáu i drigolion Cil-y-coed a Rhosied fynediad uniongyrchol i’r rhwydwaith traffyrdd, gan leihau tagfeydd wrth Gylchfan High Beech yng Nghas-gwent yn sylweddol.”
Meddai Mark Hooper AS, y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth: “Roedd yn bleser ymweld â Chyffordd Twnnel Hafren i drafod y cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae gwella mynediad i’n rhwydwaith rheilffyrdd yn ganolog i’n huchelgeisiau ar gyfer Cymru wyrddach a mwy cysylltiedig, ac mae gan gynlluniau sy’n annog pobl i newid o’r car i’r rheilffordd ran hanfodol i’w chwarae yn hynny.
“Roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn clywed sut y gallai cyswllt newydd at yr M48 gefnogi datblygiad Parcffordd Glannau Hafren, lleihau’r pwysau ar goridor yr M4, a lleddfu tagfeydd i gymunedau yng Nghil-y-coed a Rogiet. Dyma’r union fathau o atebion ymarferol, cynaliadwy yr ydyn ni’n eu cynllunio.
“Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r Cyngor wrth i’r cynnig hwn gael ei ddatblygu ymhellach.”
Ychwanegodd y Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel yn hanfodol os ydym o ddifrif am fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Byddai’r cynllun hwn yn helpu mwy o bobl i newid o gar i reilffyrdd, gan leihau allyriadau tra’n darparu dewis arall ymarferol a chyfleus. Dyma’r union fath o fuddsoddiad sydd ei angen i gefnogi twf cynaliadwy a theithiau gwyrddach ar gyfer y dyfodol.”
