Skip to Main Content

Mae Sgwrsio Am Ddiwylliant yn Sir Fynwy, hwb ar-lein newydd sydd wedi’i gynllunio i ddod â chymuned ddiwylliannol fywiog y sir at ei gilydd, wedi lansio ar blatfform Sgwrsio Am Sir Fynwy.

Bydd yr hwb yn lle pwrpasol i drigolion, grwpiau cymunedol, artistiaid, pobl greadigol a sefydliadau diwylliannol gael gwybod am ddigwyddiadau, cael mynediad at gyfleoedd am gyllid, rhannu adnoddau a dathlu gweithgareddau diwylliannol sy’n digwydd ar draws y sir.

Crëwyd yr hwb i gryfhau cysylltiadau rhwng pobl a sefydliadau sy’n gysylltiedig â diwylliant, a’i gwneud yn haws i drigolion ddod o hyd i wybodaeth, cyfleoedd a chefnogaeth mewn un lle.

Gall trigolion hefyd ddysgu mwy am Fforwm Diwylliannol Sir Fynwy, a sefydlwyd ar ôl lansio Strategaeth Ddiwylliannol Sir Fynwy. Mae’r Fforwm yn dod â phobl o holl sectorau celfyddydau, treftadaeth, addysg, digwyddiadau, gwirfoddoli a chreadigol y sir at ei gilydd, i helpu i sicrhau bod diwylliant yn parhau i fod yn gynhwysol, yn uchelgeisiol ac wedi’i wreiddio mewn cymunedau lleol.

Yn ogystal â thynnu sylw at ddigwyddiadau a mentrau lleol, bydd y platfform yn rhoi’r diweddaraf am grantiau a chyfleoedd am gyllid, yn hyrwyddo prosiectau cymunedol, ac yn annog grwpiau ac unigolion i rannu syniadau, adnoddau ac arfer gorau.

Ewch i’r hwb heddiw: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/hub-page/ddiwylliant

Meddai’r Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae Sir Fynwy yn gartref i gymysgedd cyfoethog o weithgarwch diwylliannol, o ddigwyddiadau cymunedol a phrosiectau treftadaeth lleol i sefydliadau celfyddydol, perfformwyr a busnesau creadigol.

“Wrth ddatblygu ein Strategaeth Ddiwylliannol, dywedodd pobl wrthym eu bod eisiau mwy o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd, ynghyd â chyfleoedd i bobl greadigol rannu eu newyddion a chael gwybod am gyllid a chymorth.

“Bydd y hwb hon yn ei gwneud yn haws i bobl ddarganfod beth sy’n digwydd, cael mynediad at gyfleoedd a chysylltu ag eraill sy’n rhannu angerdd dros ddiwylliant. Gobeithiwn y bydd yn tyfu wrth i bobl rannu eu newyddion. Pan fyddwch yn dod â phobl greadigol ynghyd, mae pethau gwych yn digwydd.”

Mae’r hwb hefyd yn cefnogi uchelgais y Cyngor i wneud diwylliant yn fwy gweladwy, hygyrch a chydweithredol trwy gynnig lle canolog ar gyfer gwybodaeth, cyfleoedd a chynnwys a arweinir gan y gymuned.

Anogir trigolion, sefydliadau a grwpiau cymunedol i archwilio’r hyb, rhannu eu prosiectau a helpu i dyfu rhwydwaith diwylliannol sy’n dathlu creadigrwydd, treftadaeth ac ysbryd cymunedol Sir Fynwy.