Daeth Cyngor Sir Fynwy ag ysbryd y gymuned i Frynbuga yn ddiweddar yn rhan o Ddiwrnod o Hwyl Ryngwladol i’r Teulu.
Roedd yr haul yn tywynnu wrth i deuluoedd, ymwelwyr a thrigolion ffeindio’u ffordd i’r Neuadd Goffa a Pharc Owain Glyndŵr ym Mrynbuga ddydd Gwener, 29 Mai.
Daeth y Diwrnod o Hwyl Ryngwladol i’r Teulu â lliw ac egni i’r parc ac fe’i trefnwyd mewn partneriaeth â menter Maethu Cymru Sir Fynwy.
Daeth teuluoedd at ei gilydd gyda phicnic i fwynhau sgiliau syrcas Jitterbug, perfformiad bywiog gan Danceblast, paentio wynebau – sydd wastod yn boblogaidd, sesiynau drymio bywiog a llond lle o weithgareddau am ddim.






Cafwyd cerddoriaeth a bwyd gan amrywiaeth fyd-eang o ddiwylliannau
Roedd y diwrnod yn dathlu cymuned, diwylliant, creadigrwydd a phwysigrwydd maethu.
Meddai’r Cynghorydd Ian Chandler, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Roedd yn wych gweld cymaint o deuluoedd a thrigolion yn mwynhau’r digwyddiad am ddim yn yr haul yr wythnos ddiwethaf.
“Mae’n braf gweld pobl yn dod at ei gilydd, yn enwedig i godi ymwybyddiaeth am fater mor hanfodol bwysig â maethu.
“Buaswn i’n annog unrhyw un sy’n gallu maethu ac sydd â diddordeb mewn maethu i holi am ragor o wybodaeth am faethu yn Sir Fynwy.” I gael rhagor o wybodaeth am faethu yn Sir Fynwy, ewch i Maethu yn Sir Fynwy | Maethu Cymru Sir Fynwy