Skip to Main Content

Mae ysgolion o bob rhan o Sir Fynwy wedi cymryd rhan mewn pâr o ddigwyddiadau diogelwch dŵr.

Daeth tua 500 o fyfyrwyr i’r digwyddiadau, a drefnwyd gyda chymorth yr RNLI, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu Gwent a Nofio Cymru.

Daeth yr holl ddisgyblion i ffwrdd o’r digwyddiad wedi cymryd rhan mewn pedwar gweithdy mewn pwll nofio a oedd yn canolbwyntio ar y Cod Diogelwch Dŵr.

I ddilyn cafwyd pedwar gweithdy ar dir sych, yn amlinellu peryglon dŵr a chyfraniad y gwasanaethau brys a phartneriaid eraill wrth gadw pobl yn ddiogel yn yr amgylcheddau hyn.

Mae’r Cod Diogelwch Dŵr yn seiliedig ar ymchwil a gomisiynwyd gan yr RNLI yn 2018 yn rhan o’i raglen Addysg Ieuenctid. Ers hynny, mae wedi cael ei fabwysiadu’n eang gan Fforwm Dŵr Cenedlaethol y DU, y mae sefydliadau gan gynnwys Nofio Cymru, Swim England, RLSS, RoSPA a’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn rhan ohono.

Mae’r Cod Diogelwch Dŵr yn cynnig gwybodaeth hawdd ei chofio sydd wedi’i chynllunio i addysgu unigolion ar draws y DU ac Iwerddon. Mae’n annog pobl i wneud penderfyniadau hanfodol bwysig yn gynnar ac yn eu helpu i ddeall pa gamau priodol i’w cymryd mewn argyfwng.

Cyfarwyddiadau’r cod yw, os ydych o gwmpas dŵr:

– Stopiwch a meddyliwch – nofiwch mewn lle diogel bob amser.

– Arhoswch gyda’ch gilydd – nofiwch gyda ffrindiau neu aelodau o’r teulu bob amser, neu yn rhywle lle mae yna achubwyr bywyd.

Mewn argyfwng, dylech:

– Ffonio 999 – os ydych chi’n gweld rhywun mewn trafferthion, rhaid i chi ddweud wrth rywun neu fynd i’r ffôn agosaf a deialu 999. Yna gofynnwch am y Gwasanaeth Tân ar safleoedd dŵr mewndirol a Gwylwyr y Glannau ar y traeth. Taflwch rywbeth sy’n arnofio i’r person ddal arno iddo, ond peidiwch â mynd i mewn i’r dŵr i helpu. Am ragor o wybodaeth am y Cod Diogelwch Dŵr, ewch i Beth yw’r Cod Diogelwch Dŵr? – Nofio Cymru

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: “Mae dysgu sut i fod yn ddiogel o amgylch dŵr yn sgil hanfodol, yn enwedig â ninnau ar drothwy’r rhan gynhesach o’r flwyddyn.

“Rwy’n falch o weld bod cymaint o fyfyrwyr wedi cymryd yr amser i ymgyfarwyddo â’r Cod Diogelwch Dŵr.

“Os ydych chi’n mynd allan i un o afonydd hardd Sir Fynwy neu i’r arfordir, cofiwch wneud hynny’n ddiogel.”

Meddai Hannah Guise, Rheolwr Dysgu Nofio gyda Nofio Cymru: “Mae’r gwyliau hyn yn dangos pŵer cydweithio wrth addysgu ac atgyfnerthu negeseuon diogelwch dŵr a allai achub bywydau ymhlith myfyrwyr. Mae cyfuno theori â gweithgareddau ymarferol yn y dŵr yn cyfoethogi’r profiad dysgu yn sylweddol. Rydym yn falch iawn o gefnogi MonLife i gyflwyno’r gwyliau hyn a byddem yn annog awdurdodau lleol eraill i ddilyn yr esiampl ardderchog hon.”