Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi datganiad am y gwersyll anghyfreithlon diweddar ym maes parcio Canolfan Hamdden Cas-gwent.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Hoffem gydnabod pryderon pobl leol, gan gynnwys y rheini sy’n defnyddio’r ganolfan hamdden, am yr aflonyddu a fu yn ddiweddar pan feddiannwyd y maes parcio yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent.
“Gallaf gadarnhau bod aelodau o’r gymuned teithwyr wedi gadael y safle ddoe, dydd Iau 19 Mawrth, diwrnod cyn oedd beilïaid y cyngor yn bwriadu mynd yno i’w gorfodi i symud o’r safle.”
Er bod y cyngor yn gwerthfawrogi’r heriau y mae aelodau’r gymuned teithwyr yn eu hwynebu wrth geisio dod o hyd i leiniau priodol, mae defnyddio maes parcio Canolfan Hamdden Cas-gwent hwb ganiatâd, wedi achosi pryder a chryn lawer o aflonyddwch.
Felly, ymatebodd timau’r cyngor yn brydlon. Cyn gynted ag y cafodd y maes parcio ei feddiannu, cynhaliwyd asesiad er mwyn ystyried lles yr oedolion a’r plant yn y gwersyll. Mae’r safle yn arbennig o sensitif ac nid yw’n addas i gynnal gwersyll. Fe wnaethom ddilyn y weithdrefn gyfreithiol sefydledig, sy’n gofyn inni roi wythnos o rybudd. Trefnwyd gwrandawiad llys cyn gynted ag y daeth y cyfnod rhybudd i ben, a chafodd y meddianwyr wybod am y gorchymyn llys i adael. Ddoe, dewisodd y rhai oedd yn meddiannu’r safle adael, cyn i’r gorchymyn troi allan eu gorfodi i wneud hynny.
Ychwanegodd y Cynghorydd Sandles: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio i gefnogi’r ymdrechion i ddatrys y sefyllfa hon. Rwyf wedi dechrau sgwrs gyda Llywodraeth Cymru i ailddatgan pwysigrwydd safleoedd tramwy ledled Cymru, gan nad oes lleoedd cyfreithiol na ddiogel i aros ar hyn o bryd. Byddaf yn parhau i hyrwyddo hyn i liniaru’r effaith ar ein cymunedau lleol.”
Tags: Chepstow