Mae’r llifogydd diweddar ar Afon Mynwy wedi llethu trigolion a dinistrio busnesau yn Nhrefynwy, ac wedi cadarnhau’r patrwm o ddifrod a welir dro ar ôl tro yn sgil llifogydd mewn pentrefi fel Ynysgynwraidd.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn cydweithio gyda sefydliadau sy’n bartneriaid, i roi mesurau ar waith i leihau’r difrod yn dilyn cynnydd yn y glaw sy’n disgyn. Gallwn nawr gyhoeddi ein partneriaeth gyda Sefydliad Gwy a’r Wysg a Network Rail mewn menter newydd i leihau’r perygl o lifogydd ar hyd Afon Mynwy.
Nod Prosiect Afonydd Gwydn Mynwy yw lleihau’r perygl o lifogydd trwy ymyriadau sy’n seiliedig ar natur, gan gynnwys newid ffyrdd o ddefnyddio tir, a seilwaith i reoli llifogydd yn naturiol. Mae’r partneriaid wedi cytuno i gyfuno’u cyllid i sicrhau bod gennym gynllun sy’n cael ei ddatblygu’n llawn yn y flwyddyn nesaf. Gallwn ddechrau ymyrryd i reoli llif y glaw i Afon Mynwy, a sicrhau cyllid yn y tymor hir i gynnal yr effaith hwn. Mae sgyrsiau cychwynnol gyda pherchnogion tir i fyny’r afon yn dangos eu bod yn ymroi i nodau’r prosiect, a fydd yn eu cynnwys yn llawn wrth fynd ati i’w ddylunio a’i gyflawni.
Mae Trefynwy a phentrefi ar hyd afon Mynwy wedi gweld cynnydd yn nifrifoldeb y llifogydd. Dengys dogfennau bod y glaw sy’n disgyn yn ystod y gaeaf wedi cynyddu 13% yn y 5 mlynedd diwethaf. Effeithiwyd yn ddifrifol ar y pentrefi a’r cartrefi sy’n gorwedd yn isel ar hyd y dalgylch, yn enwedig Ynysgynwraidd a Forge Road yn Nhrefynwy.
Mae’r amddiffynfeydd rhag llifogydd ar hyd afon Mynwy wedi amddiffyn y rhan fwyaf o weddill y dref yn Nhrefynwy ers sawl degawd, ond mae’r glaw dwys a syrthiodd yn ystod Storm Claudia yn ddiweddar wedi peri i’r afon lifo drostynt, gan arwain at lifogydd eang.
Mae Sefydliad Gwy a’r Wysg wedi arloesi dull sy’n cynnwys model hydrolegol manwl gan arbenigwyr a phrofion maes gan staff Sefydliad Gwy a’r Wysg. Mae hyn yn dangos y gall technegau naturiol i reoli llifogydd, a newid y ffyrdd y defnyddir y tir, gynyddu maint y dŵr y gellir ei storio mewn priddoedd, arafu’r llif i mewn i afonydd a lleihau perygl o lifogydd yn sylweddol. Mae’r manteision eraill yn cynnwys lleihau effeithiau sychder, llai o bridd yn cael ei olchi i gyrsiau dŵr a chefnogi cymunedau gwledig ar diroedd uchel drwy’r gallu i “ffermio am ddŵr”.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am brif afonydd, wedi datgan eu diddordeb i gefnogi’r prosiect. Bydd Network Rail hefyd yn cymryd rhan, yng ngoleuni’r difrod a achoswyd gan lifogydd i reilffordd Henffordd i Gasnewydd.
Dywedodd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae’r achosion uchel o lifogydd a thywydd eithafol ledled y byd, yn cadarnhau, heb unrhyw amheuaeth, realiti newid yn yr hinsawdd. Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn trigolion a busnesau. Mae’r dull naturiol o reoli llifogydd yn cynnig ffordd ymlaen yn y tymor hir, a gall ein helpu i addasu i’r heriau yr ydyn ni’n eu hwynebu fel cymdeithas. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n trigolion a’n holl bartneriaid i ddatblygu’r dull hwn a dulliau eraill.”
Dywedodd Sefydliad Gwy a’r Wysg (WUF) “Mae WUF wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr i ddeall pam mae llifogydd yn gwaethygu. Rydym bellach yn deall bod newid systemau yn hanfodol os ydym am lywio newid yn yr hinsawdd. Dyma fydd Afonydd Gwydn yn ei gyflawni.”
Dywedodd Catherine Fookes, AS Sir Fynwy: “Rydyn ni’n croesawu unrhyw beth y gallwn ei wneud i leihau’r risg o’r llifogydd dinistriol a welsom yn ystod Storm Claudia, yn fawr iawn.
Mae angen cyfuniad o ddulliau arnom i ddiogelu cymunedau fel Ynysgynwraidd a Threfynwy – o ddulliau naturiol o reoli llifogydd, i amddiffynfeydd gwell – ac mae prosiect Afonydd Gwydn Mynwy yn gam pwysig ymlaen.
Mae hwn yn brosiect y gellir ei rhoi ar waith yn weddol gyflym, felly’n helpu i leihau llifogydd, lleihau tarfu ar reilffyrdd lleol, gwella ansawdd dŵr, a rhoi cyfleoedd incwm newydd i ffermwyr lleol sy’n dewis cymryd rhan.
Edrychaf ymlaen at weld sut mae’r prosiect hwn yn datblygu.”
Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: “Fe wnaeth Network Rail fuddsoddi £4m yn 2022 i wella gwydnwch y rheilffordd rhwng Casnewydd a Henffordd, rhag y perygl o dirlithriadau yn dilyn glaw, sydd, ers tro, wedi cau’r llinell am wythnosau. Gyda hinsawdd sy’n newid mae’r perygl y mae digwyddiadau fel Storm Claudia yn ei achosi i’n gweithrediadau rheilffyrdd yn cynyddu’n barhaus. Mae angen i ni feddwl yn wahanol am sut rydyn ni’n delio â llifogydd. Mae cydweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Fynwy yn gam i’r cyfeiriad cywir mewn dull cydgysylltiedig a chydweithredol o ddelio â’r risgiau, nawr ac yn y dyfodol.”