Hoffai Cyngor Sir Fynwy ailadrodd ei ddiolchiadau i’r bobl a’r sefydliadau a gyfrannodd at yr ymgynghoriad am ei Gynllun Datblygu Lleol Newydd Adnau ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2024.
Cafwyd mwy na 4,000 o sylwadau.
Bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Craffu Lleoedd y Cyngor ar 25 Medi. Nid cyfarfod gwneud penderfyniadau fydd hwn, ond mae’n gyfle i gynghorwyr archwilio’r canfyddiadau a sicrhau eu bod yn cyflwyno cynrychiolaeth gywir o farn y cyhoedd.
Meddai’r Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd y Cabinet dros Gynllunio a’r Economi: “Mae’r cynigion hyn wedi cael eu datblygu dros sawl blwyddyn, gan weithio gyda chymunedau, busnesau, adeiladwyr tai a thirfeddianwyr lleol.
“Roedd y cam diweddaraf yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus o chwe wythnos a oedd yn gyfle i bobl ar draws y Sir godi llawer o faterion.
“Edrychaf ymlaen at weld y pwyllgor craffu yn ystyried y sylwadau hyn. Rwy’n hyderus y bydd y Cynllun yn gyfle i ni ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy, gan ddarparu’r cartrefi, y busnesau a’r gwasanaethau y mae eu hangen ar bob un ohonom.”
Fel gyda phob un o bwyllgorau’r Cyngor, bydd hwn yn agored i’r cyhoedd ac yn cael ei ffrydio’n fyw ar YouTube.
Gall aelodau o’r cyhoedd hefyd gofrestru eu diddordeb i siarad mewn fforwm agored cyhoeddus ar ddechrau’r cyfarfod. Rhaid gwneud hyn o leiaf dri diwrnod cyn y cyfarfod. Mae rhagor o fanylion am sut i wneud hyn ar: Craffu – Cymryd Rhan – Monmouthshire
Mae cadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Jane Lucas, yn awyddus i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gwybod am y cyfle hwn i ddod i’r pwyllgor i glywed canlyniadau’r ymgynghoriadau.
Pwysleisiodd, er bod yr ymgynghoriad ei hun wedi cau, y gallai aelodau’r cyhoedd ddefnyddio’r fforwm agored cyhoeddus i dynnu sylw at unrhyw faterion yr hoffent i’r pwyllgor eu harchwilio mewn perthynas â’r ymgynghoriad
Bydd gofyn i gynghorwyr gymeradwyo’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd Adnau ar 23 Hydref. Yna bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru / Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i’w archwilio’n annibynnol.