Cafodd Cyngor Sir Fynwy sgôr uwch nag unrhyw awdurdod lleol arall yn y Deyrnas Unedig am ei waith ar Ostwng Gwastraff a Bwyd, yn y Cardiau Sgorio Cynghorau Gweithredu ar yr Hinsawdd a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Caiff y Cardiau Sgorio Gweithredu ar yr Hinsawdd eu hasesu gan
Climate Emergency UK i ganfod pa mor dda mae cynghorau yn ei wneud wrth berfformio wrth weithredu tuag at Sero Net.
Seiliwyd y cardiau sgorio ar asesiad o’r themâu canlynol:
- Adeiladu a Gwres
- Cludiant
- Cynllunio a Defnydd Tir
- Llywodraethu a Chyllid
- Bioamrywiaeth
- Cydweithio ac Ymgysylltu
- Gostwng Gwastraff a Bwyd
Hwn yw’r ail dro i Climate Emergency UK gyhoeddi’r Cardiau Sgorio. Cyngor Sir Fynwy gafodd y sgôr uchaf unrhyw le yn y Deyrnas Unedig am ei waith ar Ostwng Gwastraff a Bwyd. Ni hefyd gafodd yr ail sgôr uchaf drwyddi draw yng Nghymru, ar draws y saith thema.
Dywedodd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd ar Gyngor Sir Fynwy: “Mae’r cynllun hwn yn cydnabod y gwaith y buom yn ei wneud mewn dau faes allweddol, ynghyd â’n cymunedau yn Sir Fynwy.
“Yn gyntaf, gostwng gwastraff drwy ailddefnyddio, trwsio ac ailgylchu, a chefnogi prosiectau economi gylchol newydd tebyg i oergelloedd cymunedol a Benthyg.
“Ar fwyd, cawsom ein cydnabod ar ein gwaith ar Strategaeth Fwyd Cynaliadwy a Phartneriaeth Bwyd, gyda chynhyrchwyr bwyd, ffermwyr, prosiectau tyfu cymunedol, ysgolion a phobl ifanc.
“Gallwn ymfalchïo yn yr hyn yr ydym wedi’i gyflawni ond gwyddom hefyd fod angen i ni ddal ati i wneud yn well ar draws yr holl themâu hyn er budd cenedlaethau’r dyfodol a hefyd lesiant pobl yn Sir Fynwy heddiw.”