Skip to Main Content

Bydd Adran Economi, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Sir Fynwy yn cynnal dwy ffair swyddi ym mis Ebrill.

Ar yr 11eg o Ebrill yn Neuadd y Farchnad y Fenni a’r 18fed o Ebrill yn Neuadd Côr Cil-y-coed, gall trigolion siarad â chyflogwyr lleol o feysydd gofal, adeiladu, lletygarwch, logisteg, manwerthu a mwy ar gyfleoedd cyflogaeth yn Sir Fynwy.

Bydd y ddau ddigwyddiad yn dod ag amrywiaeth o gyflogwyr lleol ynghyd i ddarparu gwybodaeth i bobl sydd am ddechrau rôl newydd, dechrau gyrfa, neu newid gyrfa.

Nod Adran yr Economi, Cyflogaeth a Sgiliau yw gwneud Sir Fynwy yn lle rydych chi’n teimlo eich bod yn cael cefnogaeth yn eich gyrfa a lle gallwch chi gael mynediad i’r addysg, cyflogaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu drwy gydol eich bywyd gwaith. Mae gweithio gyda’n cymunedau i greu rhwydwaith cymorth a fydd yn bodloni’r disgwyliadau a’r anghenion y mae trigolion a’n busnesau lleol yn eu haeddu yn sefydlu Sir Fynwy ymhellach fel un o’r lleoedd gorau yn y wlad i fyw, dysgu a gweithio ynddo.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddod â thrigolion a sefydliadau gwahanol at ei gilydd ac arddangos pa gyfleoedd sydd yn Sir Fynwy. Diolch i’r holl sefydliadau sydd wedi cofrestru i fynychu.”

Cllr Paul Griffiths
Cyng. Paul Griffiths

Os oes gan unrhyw fusnesau lleol ddiddordeb mewn mynychu, mae dal amser i gofrestru. I gofrestru, ffoniwch Stephen Cooper, Swyddog Cyswllt Cyflogaeth ar 07929749966. Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau lleol i rwydweithio gyda busnesau eraill a rhannu cyfleoedd gyda thrigolion.

I ddarganfod mwy am Adran yr Economi, Cyflogaeth a Sgiliau ac i gael gwybod am ddigwyddiadau gwahanol, ewch i: https://www.mccemployskills.co.uk/