Skip to Main Content

Yn ddiweddar, roedd Rhwydwaith Gweithredu Cymunedol Sir Fynwy wedi cynnal Digwyddiad Cymunedau Ffyniannus, sydd wedi’i ddisgrifio fel “llwyddiant aruthrol”.

Daeth y digwyddiad â mwy na 40 o sefydliadau lleol a o aelodau cymunedol ynghyd, a fu’n archwilio ystod o gyfleoedd gwirfoddoli, hobïau a gwasanaethau.

Cafwyd adborth cadarnhaol gan fudiadau yn amlygu effaith y digwyddiad ar ehangu eu gwasanaethau, meithrin rhwydweithio gyda sefydliadau eraill, a recriwtio gwirfoddolwyr yn llwyddiannus.

Denodd y gweithdai bresenoldeb sylweddol, gyda phobl yn cofleidio eu plentyn mewnol yn sesiwn Syrcas Cymunedol Cas-gwent (gan gynnwys y Cynghorydd Angela Sandles).

Roedd y panel drafod arbenigol ar gyllido yng Nghymru yn llwyddiant, gan roi cipolwg amhrisiadwy i’r sawl a fynychodd am y maes ariannu.

Roedd Hyb Magwyr a Gwndy, gyda’i gyfleusterau o’r radd flaenaf a’i leoliad delfrydol, yn lleoliad perffaith, a gobeithiwn fod y digwyddiad wedi cyfrannu at roi’r lleoliad newydd hwn ar y map.

Dywedodd y Cynghorydd Sandles:

“Rwyf wrth fy modd gyda llwyddiant aruthrol y digwyddiad Cymunedau Ffyniannus, a gynhaliwyd gan Rwydwaith Gweithredu Cymunedol Sir Fynwy. Roedd yn wirioneddol galonogol gweld y gymuned yn uno ac yn sefydlu cysylltiadau sydd heb os yn paratoi’r ffordd ar gyfer cydweithio cadarnhaol wrth symud ymlaen.

“Mae ein diolch o galon i Hyb Magwyr a Gwndy, yn ogystal â’n partneriaid GAVO, MHA, a’r holl stondinwyr, am eu rôl allweddol wrth wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant ysgubol.”

Cysylltwch gyda ni: Rhwydwaith Gweithredu Cymunedol/Ffurflen Gofrestru Be Community

Gwneud Cawl Nwdls gyda’r Cookalong Clwb

Gweithdy Atgofion gyda Monlife Heritage

Sgiliau Syrcas a Gyflwynir gan Syrcas Cymunedol Cas-gwent

Panel Drafod Arbenigol  ar Ariannu yng Nghymru, Sharran Lloyd CSF, Alison Palmer GAVO, Michael Dupree Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sian Baker Maurice WCVA Cymru.

Gweithdy Gwella Mannau Gwyrdd Bychain gan Cadwch Gymru’n Daclus

Kari Davies Rheolwr Hyb Cymunedol Magwyr a Gwndy, Rachel Knight MHA, Cyngh. Angela Sandles, Chris Irving a Beth Warrington GAVO, Fred Weston CSF.