Skip to Main Content

Croesawodd Gŵyl Nofio Ysgolion ddiweddar MonLife dros 345 o blant ysgolion cynradd i gymryd rhan mewn gweithgareddau dyfrol cynhwysol ar draws Sir Fynwy.

Roedd gwyliau yng nghanolfannau hamdden Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy yn caniatáu i ddisgyblion gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau hwyliog anghystadleuol, gan gynnwys arnofwyr, strôcs nofio a rasys wogl.

Cefnogwyd y digwyddiadau, a welodd 23 o ysgolion cynradd yn cymryd rhan, gan Nofio Cymru a 24 o fyfyrwyr Academi Arweinyddiaeth MonLife. Mae Academi Arweinyddiaeth MonLife yn rhoi cymorth i bobl ifanc yn Sir Fynwy i gyflawni eu potensial llawn.  Mae cyfranogwyr yn ennill sgiliau gwerthfawr drwy chwaraeon y gellir eu trosglwyddo i fywyd bob dydd. 

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithgar: 

“Roedd y digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i’n nofwyr ifanc ledled Sir Fynwy fwynhau gweithgareddau hwyliog heb unrhyw bwysau i fod yn gystadleuol.  Dangosodd yr ŵyl pa mor werthfawr y gall ffordd o fyw egnïol fod.  Da iawn i’r holl blant a gymerodd ran.”

Mae pob un o ganolfannau hamdden MonLife yn cynnwys pwll nofio sydd ar agor i’r cyhoedd, archebion preifat a dosbarthiadau. Mae pob pwll ar agor saith diwrnod yr wythnos.  Drwy gydol y flwyddyn, mae gan holl ganolfannau hamdden MonLife gyfleoedd nofio am ddim.  Er mwyn manteisio ar y cynnig nofio am ddim, bydd angen cerdyn MonLife ar gyfranogwyr y gellir ei gasglu yn unrhyw un o ganolfannau hamdden MonLife.

Ceir rhagor o wybodaeth am amseroedd nofio am ddim a gweithgareddau eraill yn ystod gwyliau’r ysgol ar wefan MonLife: https://www.monlife.co.uk/cy/school-holiday-activities/

Am fwy o wybodaeth am fentrau Datblygu Chwaraeon cyfredol, ewch i: https://www.monlife.co.uk/cy/connect/sports-development/ neu e-bostiwch sport@monmouthshire.gov.uk